facebook-pixel

Beth sy’n gwneud y byrgyr caws perffaith?

Awst 26, 2022

Wyddoch chi fod rhai pethau hollbwysig i’w hystyried wrth fynd i’r afael â’r bwyd brys hwn? Wnaiff llenwi rôl fara sych gyda phati cig, sleisen o gaws a joch o sos coch mo’r tro.

Felly, gwnewch y pethau sylfaenol yn gywir ac rydych ar eich ffordd i efelychu mawredd y byrgyrs blasus ym mwyty Ansh yng Nghaerdydd.

Cawson ni sgwrs gyda ‘brenin y byrgyrs’ Aled Hill o Ansh a gofyn beth yw cyfrinach eu byrgyrs bendigedig.

“Ar ôl i chi gael y pethau elfennol yn iawn, unwaith y byddwch chi’n gwybod sut i greu byrgyr caws syml, gallwch chi wedyn fynd ymlaen i arbrofi – gyda’r saws, y caws, y prydau ochr – beth bynnag rydych chi eisiau – a dod o hyd i’r byrgyr perffaith i chi.”

 

Deg awgrym anhygoel Ansh i wneud byrgyr caws campus

Pa gig sydd orau ar gyfer patis byrgyr?

Rydyn ni’n defnyddio cymysgedd o friwgig cig eidion Cymreig a phalfais. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyrchu’ch cig ac yn dod o hyd i’r cig eidion gorau posib – chewch chi ddim gwell na Chig Eidion Cymru!

 

Faint o friwgig ddylwn i ei ddefnyddio i wneud pati byrgyr?

Ar gyfer un pati mawr, defnyddiwch 180 – 200g. Rydyn ni’n defnyddio dau bati llai ar gyfer ein byrgyr caws, gan ddefnyddio 105g o friwgig ar gyfer pob pati.

 

Beth yw’r byns byrgyr gorau?

Rydyn ni’n defnyddio byns tatws, ond gallwch chi ddefnyddio rôl wen safonol, brioche neu fyns challah.

Sut mae atal gwaelod soeglyd ar y byns byrgyr?

Bydd bynsen wedi’i thostio yn creu llwyfan da i’r saws, pati a chaws eistedd arni. Rhowch bob hanner y fynsen, yr ochr wedi’i thorri am i lawr, naill ai ar radell fflat boeth neu badell sych, neu gyda’ch ochrau wedi’u torri am i fyny o dan y gril. Tostiwch nes eu bod yn euraidd.

Sut mae paratoi’r cig ar gyfer coginio byrgyrs?

Siapiwch eich briwgig yn beli cadarn, a’u rhoi yn yr oergell nes bod eich padell yn boeth a’ch bod yn barod i goginio.

A oes angen i mi ychwanegu olew i’r badell cyn ffrio byrgyrs?

Nid oes angen olew. Rydyn ni’n defnyddio radell fflat sych oherwydd mae’n caniatáu i’r gwres chwilboeth dreiddio i’r cig, gan ffurfio crwst hyfryd a dal yr holl sudd blasus.

Pryd ddylwn i sesno’r pati byrgyr?

Rhowch halen môr ar eich pati cyn i chi ei droi. Mae gan halen môr flas ysgafnach na halen bwrdd.

Pryd ddylwn i fflipio’r pati byrgyr?

Mae’r pati yn barod i’w fflipio pan fydd carameleiddio wedi dechrau ar ymyl y cig, gan ffurfio crwst, a’r braster wedi dechrau byrlymu ar yr wyneb.

Sut mae gorffen y byrgyr caws?

Symudwch eich byrgyr dros wres oerach a’i stemio â joch o ddŵr o dan cloche neu bowlen. Bydd y stêm yn gorffen coginio’r cig, tra’n toddi’r caws.

Pa saws ddylwn i ei ddefnyddio ar y byrgyr?

Chi sydd i benderfynu, ond byddai mayonnaise, sôs coch a mwstard yn sylfaen dda.

Barod i roi tro ar fyrgyr Ansh?

Rydych wedi dysgu gan y meistr, felly ewch ati i goginio! Gallwch ddod o hyd i’r rysáit i fyrgyr enwog Ansh yma.

Byrgyr caws campus Cig Eidion Cymru Ansh

 

Ryseitiau byrgyr gwych

Nawr eich bod chi’n gwybod popeth am goginio’r byrgyrs gorau, dewch o hyd i’n hoff ryseitiau byrgyrs yma:

Byrgyrs Cig Eidion Cymru wedi’u malu gyda winwns crensiog tenau

Byrgyr Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd

Byrgyrs ar y barbeciw

Rydyn ni hefyd yn gwybod bod byrgyrs yn wych ar y barbeciw. Darllenwch awgrymiadau ein harbenigwr barbeciw Chris ‘Flamebaster’ Roberts’ ar gyfer cael canlyniadau gwych wrth grilio ar y tân.

Share This