by Rhys Flowers | Ion 8, 2024
Ychwanegwch yr holl sbeisys sych, perlysiau, olew olewydd, halen a phupur i gymysgydd, cymysgwch am 1 munud. Ychwanegwch y garlleg ffres, y lemwn, y mintys a’r coriander ffres, cymysgwch eto am tua 30-60 eiliad, nes bod gennych farinâd llyfn trwchus ac aromatig...
by Rhys Flowers | Tach 23, 2022
Gan ddiolch i Chris Baber am y rysait Cynheswch yr olew olewydd ifanc iawn dros wres canolig mewn padell ffrio fawr. Ychwanegwch y sialóts, y garlleg a’r rhosmari gyda phinsiad o halen. Ffriwch am 3 munud nes eu bod wedi meddalu. Trowch y gwres yn uchel,...
by Rhys Flowers | Tach 8, 2022
Gwnewch y dresin: rhowch y sinsir, y garlleg, croen a sudd y lemwn a’r leim, mêl, finegr gwyn, sesnin, ac olew mewn powlen, chwisgiwch y cyfan yn ysgafn. Ysgeintiwch ychydig o bupur du dros y stêc, cynheswch yr olew mewn padell ffrio a, dros wres uchel, ffriwch y...
by Rhys Flowers | Awst 26, 2022
Cynheswch radell fflat neu badell sych dros wres uchel. Tynnwch y briwgig allan o’r oergell a’i ffurfio’n ddwy bêl 105g. (Os ydych yn defnyddio un pati mwy ar gyfer eich byrgyr, defnyddiwch tua 180-200g o friwgig yn lle). Rhannwch y rôl fara yn ei...
by Rhys Flowers | Gor 29, 2022
Ychwanegwch y sialóts, y lemwn, y puprynnau, y tsilis a’r clwstwr o fintys yn syth ar lo poeth y barbeciw. Rhowch ychydig o olew olewydd dros y mintys a gadewch iddo olosgi, ynghyd â’r llysiau, gan eu troi’n achlysurol. Unwaith y bydd y llysiau...
by Rhys Flowers | Gor 21, 2022
Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y rhwbiad a’u defnyddio i orchuddio’r cig oen. Coginiwch y ffa yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn, yna draeniwch nhw a’u hoeri mewn dŵr oer. Pliciwch y croen oddi ar y ffa llydan, gan y bydd y lliw yn llawer mwy...
by Rhys Flowers | Gor 18, 2022
Gwnewch y menyn â blas. Rhowch y menyn meddal mewn powlen a’i guro â llwy bren nes ei fod yn feddal ac yn hufennog, yna ychwanegwch y sesnin, y leim a’r teim. Rhowch y menyn ar ddarn o bapur memrwn neu cling ffilm a’i lapio o amgylch y menyn i wneud...
by Rhys Flowers | Gor 18, 2022
Yn gyntaf, paratowch y selsig. Mewn powlen, cymysgwch y ddau gig gyda’i gilydd. Ychwanegwch yr halen, paprica, hadau ffenigl a garlleg. Cymysgwch yn dda â llaw a’i adael yn yr oergell i farinadu dros nos. Llenwch y casys selsig gyda’r cymysgedd a’u...
by Rhys Flowers | Gor 18, 2022
Ar gyfer y madarch picl: rhowch yr holl gynhwysion, ac eithrio’r madarch, mewn sosban a dewch â nhw i’r berw. Yn y cyfamser, torrwch y canon cig oen yn dafelli tua 2cm. Torrwch bob tafell mewn arddull pili-pala, rhowch y tafelli rhwng dwy ddalen o bapur pobi neu...