Prydau cig oen a chig eidion ar gyfer y popty araf

Cogydd cartref neu llanast llwyr? Efallai mai coginio’n isel ac yn araf yw’r ffordd ymlaen…
Yn aml gall rhoi prydau bwyd maethlon ar y bwrdd ar gyfer amser swper fod yn her. Ond does dim rhaid iddi fod felly.
Ychydig bach o baratoi yn gynharach yn y dydd i roi cychwyn ar bethau yn y popty (neu’r popty araf) yw’r cyfan sydd angen ei wneud, ac erbyn amser swper, bydd pryd iachus ar y bwrdd. Mae bwyd sy’n cael ei goginio’n ysgafn ar dymheredd is am gyfnod hirach nid yn unig yn arbed ychydig o amser i chi, ond mae’n hynod flasus ac yn ffordd wych o gloi’r holl ddaioni naturiol i mewn.
Dim ffws. Dim penderfyniadau munud olaf i’w gwneud ynglŷn â swper. Dim ond gweini a mwynhau.
Mae’r blas yn well o gymryd amser
Cig Oen Cymru suddlon a gwych
Mae Cig Oen Cymru wedi’i goginio’n araf yn ffefryn gan gogyddion. Mae’n gwella blas yn ogystal â gwead y cig. O ysgwydd cig oen mwg sy’n ‘cwympo oddi ar yr asgwrn’ i fedaliynau blasus a chaserol cig oen, bydd y ryseitiau popty araf Cig Oen Cymru hyn yn dangos i chi sut i gael cig sydd wedi’i goginio’n hyfryd o araf.

Siancen Cig Oen Cymru gyda Ras el Hanout, salad couscous cynnes, pomgranad a iogwrt mintys gan Ludo Dieumegard

Cawl Cig Oen Cymru traddodiadol

Medaliynau Cig Oen Cymru crimp yn null Peking

Cig Oen Cymru gyda chennin a ffacbys gan Rocket & Squash

Tagine Cig Oen Cymru araf

Ysgwydd Cig Oen Cymru mewn popty araf gan Hungry Healthy Happy

Siancod Cig Oen Cymru wedi eu coginio’n araf gyda rogan josh corbys a ragout tatws

Hotpot Cig Oen Cymru popty araf gan Supergolden Bakes

Mechoui Cig Oen Cymru Morocaidd gyda tagine llysiau gan Hang Fire

Ysgwydd Cig Oen Cymru blas cyri

Ysgwydd Cig Oen Cymru Hywel Griffith gyda salad tomato a ffenigl talpiog

Cobler Cig Oen Cymru Lavender and Lovage gyda thwmplenni sgons garlleg

Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i rhostio’n araf

Ragu Cig Oen Cymru popty araf Hungry Healthy Happy

Piadina mozzarella Cig Oen Cymru wedi’i rwygo gan Francesco Mazzei

Brest Cig Oen Cymru gydag orzo tsili ac ansiofi mewn un potyn gan Rosie Birkett

Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i choginio’n araf gan Julius Roberts
Cig Eidion Cymru sy’n tynnu dŵr i’r dannedd
Does dim sy’n rhoi mwy o gysur nag arogl cig eidion wedi’i goginio’n araf yn rhostio’n ysgafn ar benwythnos diog. Mae cig eidion wedi’i goginio’n araf yr un mor flasus fel rhan o stiwiau a chaserolau blasus. Cymerwch gip ar ein prydau swmpus wedi’u coginio’n araf a byddwch chi’n gwybod sut i goginio cig eidion yn araf yn wych mewn dim o dro.

Cig Eidion Cymru un ddysgl gyda chnau castan

Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf

Bourguignon Cig Eidion Cymru

Brisged Cig Eidion Cymru araf mewn saws cyfoethog a sticlyd

Madras Cig Eidion Cymru

Asen Cig Eidion Cymru wedi ei rostio’n araf gyda sglein soi a thatws melys wedi ffrio gan Ludovic Dieumegard

Cig Eidion Cymru wedi brwysio gyda llugaeron a chnau castan

Stiw cynffon ych Cig Eidion Cymru

Asennau byrion Cig Eidion Cymru mewn gwin coch a pherlysiau

Caserol boch ychen Cig Eidion Cymru gan Tom Simmons

Coes las Cig Eidion Cymru wedi ei choginio’n araf gyda grawn rhyg bioddynamig gan Matt Powell

Plât rhannu barbacoa Cig Eidion Cymru

Darnau llosg brisged Cig Eidion Cymru
Er mwyn creu perffeithrwydd sy’n tynnu dŵr i’r dannedd, dyma ambell ffordd o goginio Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn araf:

Traddodiadol a blasus
Gallwch chi sicrhau canlyniadau gwych trwy goginio cig yn araf mewn popty confensiynol. Mae hambyrddau popty dwfn a dysglau caserol gwrth-ffwrn gyda chaeadau yn ddelfrydol ar gyfer coginio cig eidion neu gig oen blasus yn araf.

Mwg a blas
Peiriant sy’n defnyddio siarcol / pren sy’n coginio bwyd yn isel ac yn araf trwy ei ysmygu yw mygwr. Gallwch sicrhau canlyniadau tebyg ar farbeciw, ond mae angen rheoleiddio’r tymheredd coginio â llaw. I gael y canlyniadau gorau, cyfeiriwch at eich llawlyfr defnyddiwr mygwr / barbeciw a chyn pen dim byddwch wedi perffeithio’r brisged mwg neu’r ysgwydd cig oen mwg.

Cynnau. Ychwanegu. Mwynhau.
Offeryn trydanol i’w roi ar ben y cownter yw popty araf. Mae’n ffordd gyfleus a rhad i goginio, yn defnyddio llai o egni na ffwrn gonfensiynol. Ychwanegwch gig wedi’i baratoi, llysiau a hylif i’r potyn, ei gynnau, a gadael iddo wneud ei waith! Mae’n wych ar gyfer caserolau cig oen neu gig eidion a chyri brau.
Gair o gyngor
Ffwrn gonfensiynol

Gadewch i'r cig gyrraedd tymheredd yr ystafell cyn ei goginio

I gael dyfnder yn y blas, seriwch / browniwch y cig ar bob ochr yn gyntaf

I helpu i wneud yn frau, gorchuddiwch y cig neu ychwanegwch hylif (e.e. stoc, alcohol)
Mygwr / barbeciw

Defnyddiwch wres anuniongyrchol barbeciw tegell...
(oddi ar y siarcol poeth) a'i orchuddio â chaead (fent ar agor). Cadwch y tymheredd coginio yn gyson isel

I gael blas ychwanegol, ychwanegwch berlysiau at y glo
Popty araf

Mae toriadau rhatach o gig yn ddelfrydol ar gyfer y popty araf ...
gan eu bod fel arfer yn cynnwys fwy o feinwe cysylltiol

Tynnwch y croen a’r braster oddi ar y cig

I gael dyfnder yn y blas, seriwch / browniwch y cig ar bob ochr yn gyntaf

Ychwanegwch lysiau nad ydynt yn wreiddlysiau tua diwedd yr amser coginio

Defnyddiwch lai o hylif na mewn ryseitiau popty confensiynol

Os ydych chi'n defnyddio cynhyrchion llaeth, ychwanegwch nhw ar ôl gorffen coginio

Os ydych chi'n defnyddio perlysiau gwyrdd ffres, ychwanegwch nhw’n union cyn gweini
Manteision coginio’n araf
Sut i ddefnyddio popty araf neu goginio mewn mygwr? Dyma rai o fanteision coginio’n isel ac yn araf…