facebook-pixel

Unigryw i Gymru. Rhydd i bori’r tir…

Mae ffermwyr da byw Cymru yn gwybod os byddwch chi’n edrych ar ôl yr amgylchedd, bydd yr amgylchedd yn edrych ar eich ôl chi. Ers canrifoedd, maen nhw wedi bod yn chwarae rhan allweddol wrth greu a chynnal y tirweddau gwledig prydferth rydyn ni’n eu hadnabod a’u caru, ac mae rheoli’r rheini’n gynaliadwy wedi helpu creu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n ferw o fywyd gwyllt ac yn addas i ymwelwyr, diolch i rwydwaith o lwybrau troed sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan ffermwyr.

Er bod effaith amaeth ar newid hinsawdd yn bwnc llosg ar hyn o bryd, mae’n bwysig cofio bod amrywiaethau mawr mewn effeithiau amgylcheddol gwahanol systemau ffermio ar hyd a lled y byd, a bod Cymru yn arbennig o addas i fagu gwartheg a defaid.

Dyma rai o’r prif wahaniaethau rhwng y ffordd Gymreig o amaethu a’r hyn sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r byd…

Nid yw 80% o dir ffermio Cymru yn addas ar gyfer tyfu cnydau; cadw gwartheg a defaid yw’r ffordd orau o gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel o dir ymylol.

Yn wahanol i rannau eraill o’r byd ble mae prinder o ffynonellau dwˆ r neu ble defnyddir tir i dyfu porthiant, nid yw’r ffordd Gymreig o ffermio ar y cyfan yn ddwys, a caiff defaid a gwartheg eu magu gan amlaf ar ein ffynonellau naturiol o laswellt a dŵr glaw.

Mae glaswelltir bryniau Cymru yn dal carbon o’r atmosffer, ac mae ffermwyr Cymru yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i newid yn yr hinsawdd trwy reoli’r glaswelltir hwn trwy gyfuno arferion traddodiadol a syniadau newydd.

Mae gan ffermio yng Nghymru stori dra gwahanol i’w hadrodd na rhai o’r systemau dwys a diwydiannol mewn rhai rhannau eraill o’r byd. Gyda hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori o safon uchel, mae ein ffermydd teuluol wedi helpu gwarchod ein tirwedd unigryw ers cenedlaethau, a byddan nhw’n parhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod.

Share This