facebook-pixel

Yn syml, stêc ‘sblennydd

Nid oes y fath beth ag ‘yr un stêc i bawb’.

Mae stêc yn hynod hyblyg, yn ddefnyddiol iawn i’w chael yn eich repertoire coginio, ac yn union fel ffrog fach ddu, gallwch ei gwisgo i fyny neu i lawr i weddu i’r achlysur. Mae’n ffordd wych o fod yn greadigol yn y gegin, ond cofiwch – pan mae’n dda mae’n dda a phan mae’n wael gall fod mor galed â gwadn esgid!

Darllenwch ambell awgrym a syniad am stêcs Cig Eidion Cymru gwych…

Sut ydych chi’n hoffi’ch un chi?

Gwaedlyd, canolig-gwaedlyd, wedi’i choginio’n dda neu rywbeth yn y canol? Mae’r ffordd y caiff stêc ei choginio bron bob amser yn destun anghytuno. Tra bod rhai yn ffeiddio at y syniad o stêc waedlyd sydd ‘bron yn cerdded oddi ar y plât’, gall eraill synnu at stêc sydd wedi’i choginio’n dda a bron â’i llosgi.

Pa un ydych chi?

Stêcs syfrdanol o suddlon

Sleisen o gig eidion yw stêc yn y bôn, ond mae llawer o fathau ar gael yn dibynnu o ba doriad o gig eidion y daw. Mae gan bob stêc nodweddion amrywiol y mae angen eu hystyried wrth goginio ar gyfer y canlyniadau gorau. Edrychwch ar y mathau mwyaf poblogaidd o stêc isod a’n hawgrymiadau o ryseitiau.

Ffiled

Wedi’i thorri o waelod y cefn, ble mae’r cyhyr prin yn cael ei ddefnyddio, nid oes gan y stêc hon lawer o fraster ac ychydig iawn o frithder sydd iddi. Er gwaethaf ei thynerwch hynod feddal (a’i phris!) nid yw mor flasus â darnau eraill o stêc.

Syrlwyn

Mae gan y stêc hon, sydd wedi’i thorri rhwng yr asennau a’r ffolen, haen dda o frithder. Stêc sy’n llawn blas cig eidion ac yn dal yn dyner os caiff ei gorffwys yn ddigonol.

Ffolen

Stêc sydd heb lawer o fraster o gwbl, wedi’i thorri o’r pen ôl, ond nid yw mor dyner â thoriadau eraill. Mae’n well ei marinadu cyn ei choginio.

Sbawd frith

Wedi’i thorri o’r ysgwydd, mae gan y stecen hon fraster brith da drwyddi draw. Mae’n dda ei choginio’n waedlyd i ganolig-gwaedlyd ac mae’n stêc ardderchog i’w grilio ar y barbeciw.

Llygad yr asen

Gyda digon o frithder, mae’r stêc hon yn cael ei thorri o’r asennau ac mae’n flasus iawn. Stêc tomahawk yw’r enw ar lygad yr asen ag asgwrn ynddi.

Hyfryd o hyblyg

Er bod stêc a sglodion yn bryd poblogaidd, oeddech chi’n gwybod y gallwch chi weini stêc mewn ffyrdd cyffrous eraill? Rhowch gynnig ar ein ryseitiau isod i roi tro yng nghynffon y stêc draddodiadol.

Mae newid yn lles…

Mae mwy i stêcs na chig eidion. Ydych chi wedi rhoi cynnig ar stêcs Cig Oen Cymru? Mae’r stêcs suddlon a blasus hyn, o’r goes neu’r ffolen, yn hynod o hyblyg a blasus. Er mwyn trio rhywbeth newydd, rhowch gynnig ar y ryseitiau gwych hyn.

Perffeithrwydd mewn padell

Ffyrdd eraill i goginio stêcs Cig Oen Cymru…

Peidiwch â gwneud mis-stêcs gyda’n hawgrymiadau syml

I gael y canlyniadau gorau, ffriwch neu griliwch stêcs. Weithiau, gellir gorffen coginio stêcs yn y popty hefyd.

Mêts y stêc

Y cyfeiliant perffaith i unrhyw bryd stêc.

Saws pupur

Chimichurri

Saws madarch

Salsa Verde

Saws caws glas

Share This