facebook-pixel

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Hybu Cig Cymru (HCC) yn https://eatwelshlambandbeef.com

Defnyddio’r wefan hon

Rydym ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet (https://mcmw.abilitynet.org.uk/) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym ni’n gwybod bod un elfen o’r wefan hon nad yw ar gael yn llawn oherwydd gwrthdaro mewn steil amlinellol a allai effeithio ar amlygu llywio’r bysellfwrdd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni drwy’r sianeli canlynol:E-bost: info@hybucig.cymru
(DU): 01970 625050

 

Mae rhywfaint o wybodaeth y wefan ar gael yn rhwydd mewn fformatau eraill. Cysylltwch â ni yn y ffyrdd a restrir uchod i gael gafael ar y rhain.

Er mwyn ein helpu i gwrdd â’ch anghenion yn well, dywedwch wrthym ni pa fformat arall yr hoffech ei dderbyn, ac os ydych yn defnyddio unrhyw dechnoleg gynorthwyol rhowch wybod i ni.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost at:

info@hybucig.cymru neu ffoniwch: 01970 625050

Gweithdrefn orfodi

Mae Rheoliadau Hygyrchedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (https://www.equalityadvisoryservice.com/).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Yn ystod pandemig COVID-19 rydym ni’n eich annog i beidio ag ymweld â swyddfa HCC yn bersonol.

Ar hyn o bryd nid ydym ni’n darparu gwasanaeth trosglwyddo testun, dolenni sain, na dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Fodd bynnag, rydym ni’n ymchwilio i ddichonoldeb darparu’r gwasanaethau hyn.

Ewch i’n gwefan i gael gwybod sut i gysylltu â ni: www.meatpromotion.wales/cy

Ffoniwch 01970 625050 os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae HCC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.

Yr hyn rydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae’r wefan yn cael ei hadolygu’n gyson ar gyfer hygyrchedd. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y technolegau cynorthwyol a ddefnyddir amlaf – gan gynnwys chwyddwyr sgrin, darllenwyr sgrin ac offer adnabod llais.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Hydref 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 22 Medi 2020.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Four Communications Cyf. Defnyddiwyd meddalwedd trydydd parti proffesiynol ‘Sortsite’ (rhan o gyfres brofi Powermapper.com) i sganio gwefan gyfan eatwelshlambandwelshbeef.com   (1170 tudalen) ar gyfer materion hygyrchedd. Defnyddiwyd Accessibility Divi (ategyn WordPress) hefyd ar gyfer profion ychwanegol â llaw.Mae Sortsite yn profi yn erbyn y porwyr canlynol:
Microsoft Edge 81
Chrome 81
Safari 14.0

 

Cafodd yr holl faterion allweddol a ganfuwyd gan yr offer hyn eu catalogio a’u trwsio gan ddatblygwyr y safle.

Share This