facebook-pixel

Cytledi Cig Oen Cymru o’r gradell gyda menyn teim a leim

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 6-8 cytled neu olwyth Cig Oen Cymru PGI (gallwch hefyd eu gwneud gyda stêcs coes)
  • Olew
  • Pupur du

Ar gyfer y menyn teim a leim:

  • 125g menyn heb halen
  • Sesnin
  • 2 leim, croen wedi’i gratio
  • 2 lwy fwrdd dail teim, wedi’u torri

Menyn amgen â blas:

Tsili, basil a paprica mwg

  • 1 tsili coch ffres, wedi’i dorri
  • ½ llwy de paprica mwg
  • Llond llaw o ddail basil, wedi’u torri

Lemon, garlleg a rhosmari

  • 1 lemon, dim ond y croen
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd rhosmari, wedi’i dorri

Dull

  1. Gwnewch y menyn â blas. Rhowch y menyn meddal mewn powlen a’i guro â llwy bren nes ei fod yn feddal ac yn hufennog, yna ychwanegwch y sesnin, y leim a’r teim.
  2. Rhowch y menyn ar ddarn o bapur memrwn neu cling ffilm a’i lapio o amgylch y menyn i wneud siâp selsig. Trowch y pennau i’w selio a’i roi yn yr oergell i galedu. (Gall y menyn gael ei rewi hefyd).
  3. Arllwyswch ychydig o olew ar y cytledi a, gan ddefnyddio brwsh neu ddwylo, rhowch olew ar ddwy ochr y cytledi.
  4. Cynheswch radell neu badell ffrio â gwaelod trwm a phan yn boeth iawn, ychwanegwch y cytledi. Ffriwch am 2-3 munud bob ochr i gael cytledi wedi’u coginio’n ganolig. Tynnwch nhw allan o’r badell a’u rhoi ar y plât, sleisiwch y menyn â blas yn gylchoedd ½ cm a rhowch un ar bob cytled. Gadewch iddyn nhw orffwys am ychydig funudau cyn gweini, ac i’r menyn doddi ar y cytled.
  5. Gweinwch gyda thatws newydd wedi’u malu a llysiau gwyrdd neu salad gwyrdd.
Share This