facebook-pixel

Sut i arbed arian gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Gyda chostau byw yn codi, gall gwybod ble i dorri costau a sut i gyllidebu yn unol â hynny fod yn her. Fodd bynnag, dylai ein hiechyd a’n lles fod yn brif flaenoriaeth bob amser.

Mae bwyd maethlon yn hanfodol ar gyfer iechyd da a dylem wastad ymdrechu i fwyta’n dda a phrynu’r bwyd gorau y gallwn ei fforddio.

Trwy addasu’r ffordd rydym yn cynllunio, coginio a siopa ar gyfer ein prydau, mae modd arbed arian ac amser, gan wneud y gorau o fwyd maethlon a blasus yn ein diet fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

6 cyngor campus ar gyfer arbed ychydig o arian (ac amser!) heb golli allan ar y pethau da.

Bachwch fargen yn eich siop gigydd lleol

Mae’n werth ymweld â’ch siop gigydd lleol lle gallwch gael bargeinion gwych ac awgrymiadau a chyngor.

Gwddf Cig Oen Cymru

Mae ffiledau gwddf heb asgwrn yn wych wedi’u marinadu ar gyfer cebabs, wedi’u sleisio’n denau ar gyfer prydau tro-ffrio neu wedi’u torri’n giwbiau mân ar gyfer cyris.

Y Fron Cig Oen Cymru

Darn cymharol rad o gig oen sy’n cael ei ddefnyddio orau mewn stiw, neu mae’n aml yn cael ei ddiesgyrnu, ei stwffio, ei rolio a’i goginio’n araf. Fel arfer, caiff ei dynnu i wneud briwgig.

Cig Eidion Cymru

Brisged, stecen balfais a sbawd, cynffon ych, coes las a choes, ystlys las, sgert.

Swmp brynu

• Os oes gennych ddigon o le yn eich rhewgell, mae’n werth prynu hanner cig oen a’i rewi mewn darnau unigol. O hanner cig oen, gallwch ddisgwyl ysgwydd cig oen, rag cig oen, coes cig oen, gwddf a golwythion. Gallech ofyn i’r cyflenwr dorri’r darnau hyn yn ddarnau llai e.e. y goes yn 2 i 3 darn, a fydd yn gwneud i’r cig fynd ymhellach. Gall cynlluniau bocsys cig hefyd fod yn rhatach na phrynu swmp mewn archfarchnad.

Pryd i un?

• Os oes llawer o le yn eich rhewgell i storio cig dros ben, eich siop gigydd leol yw’r lle delfrydol i brynu meintiau llai o gig pan fyddwch ei angen. Gallwch hefyd brynu meintiau bach o gig mewn archfarchnadoedd.

Dewch o hyd i’ch siop gigydd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru agosaf yma.

Rhowch gynnig gartref

Gwnewch y gorau o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gyda’n ryseitiau blasus. Yma fe welwch brydau pobi hambwrdd popeth-mewn-un, prydau sy’n wych i’w rhewi, prydau gwych ar gyfer y popty araf ac atebion cyflym i’w coginio ar yr hob.

Prydau pobi hambwrdd blasus

Darnau darbodus

Isel ac araf

Perffeithrwydd mewn padell

Rhyfeddodau ar gyfer y rhewgell

*AWGRYM

Dadmerwch fwyd dros ben yn drylwyr cyn ei ailgynhesu mewn microdon neu drwy ei adael yn yr oergell dros nos. Ailgynheswch y bwyd nes ei fod yn chwilboeth drwyddo. Dylai bwydydd sy’n cael eu hailgynhesu yn y microdon gael eu troi hanner ffordd drwodd, gan nad yw’r microdon yn gwresogi’n gyfartal. Dylid bwyta bwydydd o’r rhewgell o fewn 24 awr.

Share This