facebook-pixel

Cyri a sbeis a phopeth sy’n neis

Gadewch inni fynd â chi ar daith goginio ar hyd y llwybr sbeis gyda phrydau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. O sbeisys ysgafn i brydau poeth a sbeislyd, mae’r ryseitiau hyn yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Ysgafn a melys

Mae cyris ysgafn yn aml yn cael eu gwneud yn fwy hufennog gyda iogwrt neu laeth cnau coco. Mae cyris Indiaidd poblogaidd fel pasanda a korma yn y categori hwn. Y sbeisys a’r perlysiau blasus sy’n bwysig, yn hytrach na faint o tsili a ddefnyddir yn y pryd.

Rhyfeddol o gymedrol

Gall y categori cyri hwn fod yn gymedrol o ran gwres ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn gymedrol ei flas! Defnyddir ychydig mwy o tsili yn y cyris hyn ond maen nhw’n aml yn cael eu hoeri gan hufen neu iogwrt. Defnyddir sudd lemon hefyd, er enghraifft, mewn dhansak melys a sur. Mae tikka masala hefyd yn y categori hwn.

Beiddgar a blasus

Allwch chi ymdopi â’r gwres? Mae rhai’n ei hoffi’n boeth, ac mae rhai’n ei hoffi hyd yn oed yn boethach! Pa bynnag wres y gallwch ei oddef, yr hyn sy’n gyffredin ym mhopeth yw tsili. Faint o tsili sydd yn y pryd sy’n pennu’r gwres. Yn coroni’r categori hwn mae vindaloo a phaal. Mae Madras a Jalfrezi yn perthyn yma hefyd … ydych chi?

Cyfrinachau sbeislyd a phrydau piquant

Gallwch greu cyris anhygoel a phrydau llawn sbeis gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Yma, mae The Curry Guy, sef Dan Toombs, sy’n ail-greu cyris bwytai cyri, a Cooking with Zainab, sy’n swyno’i dilynwyr â phrydau hyfryd, yn dangos i chi sut i fynd ati.

Cyri Champaran handi Cig Oen Cymru The Curry Guy

Yn draddodiadol, gwneir y cyri blasus hwn, a wneir gyda Chig Oen Cymru, mewn ‘handi’ (pot clai) a’i goginio dros lo poeth. Os nad oes gennych ‘handi’, gellir ei wneud ar yr hob mewn sosban gyda chaead.

Cyri Cig Oen Cymru a sbigoglys gan Zainab Pirzada

Mae Cig Oen Cymru a sbigoglys bach yn gwneud cyfuniad gwych yn y cyri hwn sydd wedi’i goginio’n araf. Mae’n dda iawn wedi’i weini gyda reis basmati a naan.

Magwch hyder yn eich cyri

Dilynwch ein fideos coginio i’ch helpu i wneud cyris gwych gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Share This