facebook-pixel

Arferion ffermio

Mae ffermwyr Cymru’n gwybod ers cenedlaethau os byddwch yn gofalu am yr amgylchedd, fe fydd yr amgylchedd yn gofalu amdanoch chi. A dyna’r gyfrinach y tu ôl i ganrifoedd o arferion ffermio cynaliadwy sydd wedi gwneud Cymru’n gynhyrchydd cig oen a chig eidion blaenllaw.

Gyda’r safonau uchaf o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae ffermydd teuluol wedi helpu i ddiogelu’r dirwedd unigryw hon ers cenedlaethau. Dyna un o’r rhesymau pam mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi ennill y statws prin o Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Caiff ein hŵyn a gwartheg, sydd i gyd yn cael eu geni yng Nghymru, eu tagio a’u cofnodi o’r dydd y cânt eu geni fel bod modd eu hadnabod. Wrth wneud hyn, mae modd gwybod i ba fferm y maen nhw’n perthyn ac mae modd eu olrhain drwy bob cam o’r broses gynhyrchu. Dim ond lladd-dai cymeradwy, sy’n cael eu harchwilio’n rheolaidd, all baratoi’r cig. Mae ansawdd wrth wraidd popeth a wnânt.

Mae’r un peth yn wir am gynaliadwyedd. Mae ffermwyr Cymru yn cyfranogi i gynlluniau amaeth-amgylcheddol sy’n diogelu a gwella ein amgylchedd syfrdanol. Maen nhw’n cefnogi marchnadoedd da byw lleol, yn cynnal yr economi wledig ac yn cefnogi swyddi lleol.

Ac maen nhw wedi defnyddio dulliau bridio detholus naturiol i gael llai o fraster yn eu cig yn unol â gofynion y defnyddwyr. Ond ar wahân i hynny, dydy arferion ffermio ddim wedi newid llawer dros y canrifoedd, gan weithio yn unol â rhythm y tymhorau.

Dyma’r dreftadaeth wych sy’n greiddiol i ansawdd uchel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Share This