facebook-pixel

Cyngor ar goginio iach

Stêc sy’n tynnu dŵr o’r dannedd. Lasagne cig eidion blasus. Cebab cig oen sbeislyd… gydag ychydig bach o wybodaeth ymaferol cewch eich synnu faint o brydau maethlon a iach y gallwch chi eu paratoi i chi a’ch teulu gan ddefnyddio Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Dyma ychydig o gyngor defnyddiol:

  1. Wrth baratoi a choginio cig coch fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, mae’n werth defnyddio’r dulliau canlynol: grilio yn hytrach na ffrio; torri unrhyw fraster i ffwrdd; osgoi defnyddio olew ychwanegol a chael gwared â braster ychwanegol sydd wedi toddi.
  2. Wrth brynu cig coch, chwiliwch am lai o fraster a llai o fraster dirlawn. Mae cig eidion heb lawer o fraster wedi’i docio’n llawn yn cynnwys 5% yn unig ac oen yn 8%.
  3. Mae tro-ffrio hefyd yn ffordd dda o goginio cig coch sydd heb lawer o fraster gan mai ychydig iawn o olew, neu ddim o gwbl, sy’n cael ei ychwanegu at y cig.
  4. Am flas a sudd ychwanegol, mae cig sydd wedi ei farinadu hyd yn oed yn well ac yn helpu tyneru darnau caletach o gig.
  5. Wrth wneud caserol neu stiw gallwch sgimio unrhyw fraster oddi ar yr wyneb cyn gweini.

Cymeriant sy’n cael ei argymell

Mae rheoli maint pryd yn hanfodol ar gyfer diet iech a chytbwys.

Mae’r GIG yn argymell bwyta hyd at 70g o gig coch wedi ei goginio a chig wedi ei brosesu bob dydd, sydd ychydig yn llai na 500g mewn wythnos. Argymhellir ein bod ni’n cyfyngu faint o gig wedi ei brosesu fel cig moch, ham, salami a chigoedd wedi eu mygu rydyn ni’n ei fwyta.

Dewis y dull coginio gorau

Bydd deall ychydig am gyfansoddiad y cig yn eich helpu chi i ddewis y dull gorau o goginio darn penodol – ydych chi’n ei goginio’n sydyn neu’n araf? Bydd hyn yn gwneud gwahanaieth mawr i’r blas a’r breuder.

Yn gyffredinol mae darnau o chwarthor blaen yr anifail yn tueddu i wneud mwy o waith, felly mae gan y toriadau rydyn ni’n eu cael yno fel rheol yn wydn ac yn gallu cynnwys mwy o fraster, sy’n gweddu i ddull coginio arafach a llaith i wella’r blas a’r tynerwch. Mae’r rhain yn cynnwys darnau fel stêc balfais cig eidion, brisged cig eidion, grimog ci eidion, a brest a gwddf cig oen.

Beth am roi cynnig ar y rysáit hon ar gyfer ysgwydd o Gig Oen Cymru wedi’i thynnu – mae’r broses goginio araf yn arwain at gig oen blasus tyner, sy’n toddi yn y geg (dolen i’r rysáit).

Mae rhai o’r darnau sy’n dod o’r canol neu’r pedrain yn dueddol o wneud llai o waith ac fel arfer felly maen nhw’n fwy brau. Mae’r rhain yn cynnwys stêcs cig eidion fel syrlwyn, ffiled, llygad asen, tomahawk a ffolen, ynghyd â thoriadau cig oen fel stêcs coesau, golwythion lwyn, stêcs rag a chump. Mae rhain yn gweddu i ddulliau coginio cyflym fel grilio, ffrio, barbeciwio a gradellu. Mae toriadau mwy fel ochor orau’r forddwyd cig eidion, asen cig eidion wedi rholio a heb yr asgwrn, syrlwyn, coesau cig oen a ffolen oen yn fwy addas ar gyfer rhostio sych, tra bod shank cig oen a silverside o gig eidion yn gweddu i ddulliau coginio arafach.

Neu beth am rhoi cynnig ar doriadau stêc cig eidion fwy cyfoes sydd fel arfer yn rhatach ond yn llawn blas anhygoel, â marmor da ac yn suddlon. Mae rhain yn gweddu i ddulliau coginio cyflym – toriadau fel stecen sbawd frith (featherblade), hanger steak (onglet), picanha, bavette, tip tri a denver.

Ewch i’r dudalen Adnabod eich toriadau am wybodaeth fanylach.

Share This