facebook-pixel

Stêcs Cig Oen Cymru wedi’u serio gyda ffa a llysiau gwyrdd garllegog gan Chris Baber

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 x stêc Cig Oen Cymru PGI heb esgyrn, wedi’u sesno â halen
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd ifanc iawn
  • 2 sialót, wedi’u torri’n giwbiau mân
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
  • 2 sbrigyn rhosmari, wedi’u torri’n fân
  • 100ml gwin gwyn
  • 1 tun ffa cannellini
  • 200ml stoc cyw iâr
  • 2 lond llaw cêl wedi’i rwygo
  • ½ lemon, croen a sudd
  • Bwnsiad bach persli, wedi’i dorri

Dull

Gan ddiolch i Chris Baber am y rysait

  1. Cynheswch yr olew olewydd ifanc iawn dros wres canolig mewn padell ffrio fawr. Ychwanegwch y sialóts, y garlleg a’r rhosmari gyda phinsiad o halen. Ffriwch am 3 munud nes eu bod wedi meddalu.
  2. Trowch y gwres yn uchel, ychwanegwch y gwin a gadewch iddo ffrwtian i leihau o hanner.
  3. Ychwanegwch y ffa, ynghyd â’r dŵr o’r tun, a’r stoc, ac ychydig o bupur du.
  4. Dewch ag ef i’r berw, ac yna gostwng y gwres. Gorchuddiwch yn llac a mudferwch am 10 munud.
  5. Trowch y cêl i mewn, gorchuddiwch â chaead a choginiwch am 5 munud arall.
  6. Yn y cyfamser, cynheswch badell ffrio arall dros wres canolig-uchel gyda sblash o olew olewydd. Ychwanegwch y cig oen, a choginiwch am tua 2 funud ar bob ochr nes ei fod yn euraidd.
  7. Trosglwyddwch y cig oen i blât i orffwys am 3-5 munud cyn ei dorri’n stribedi tenau.
  8. Ychwanegwch y croen lemwn a’r sudd i’r ffa. Addaswch y sesnin at eich dant.
  9. Rhannwch y ffa rhwng y platiau gweini a rhowch y cig oen ar ei ben. Ysgeintiwch bersli dros y cyfan.
Share This