facebook-pixel

Polisi preifatrwydd

Mae HCC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr â’n gwefan.

Hybu Cig Cymru yw Rheolwr Data unrhyw ddata personol a rowch inni. Ein manylion cyswllt yw;

Hybu Cig Cymru,
Tŷ Rheidol,
Parc Merlin,
Aberystwyth,
SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hccmpw.org.uk

 

Diogelu eich gwybodaeth

Rydyn ni yn Hybu Cig Cymru yn addo diogelu eich preifatrwydd drwy’r Polisi Preifatrwydd hwn a’ch hawliau chi o dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae’r polisi hwn yn egluro pam rydyn ni’n gofyn am wybodaeth, sut y gallwch chi roi neu wrthod rhoi caniatâd, am ba wybodaeth rydyn ni’n gofyn, a phwy arall allai gyrchu’r wybodaeth.

Yr unig wybodaeth bersonol fydd gennyn ni yw’r hyn sydd wedi cael ei roi inni’n wirfoddol gennych chi. Gallwch newid eich manylion, gan gynnwys optio i mewn ac optio allan o amrywiol wasanaethau, drwy fynd at eich cyfrif personol yn https://eatwelshlambandwelshbeef.com/ unrhyw bryd.

Pam ydyn ni’n gofyn am wybodaeth bersonol?

Y prif reswm rydyn ni’n prosesu, storio a gofyn am eich gwybodaeth bersonol yw fel y gallwn ni ddarparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt i chi. Gallai’r gwasanaethau hyn gynnwys gwybodaeth a diweddariadau, neu lenwi holiaduron a chystadlaethau.

Bydd Hybu Cig Cymru neu ein darparwyr gwasanaeth yn casglu a storio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer pwrpasau a allai gynnwys:

  • Darparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt yn uniongyrchol
  • Os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd, cysylltu â chi pan fo newyddion i’w rannu am ein cynnyrch a’n gwasanaethau
  • Galluogi trydydd partïon i brosesu a rheoli eich gwybodaeth er mwyn ein galluogi ni i ddarparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt
  • Rhesymau diogelwch, gweinyddol a chyfreithiol
  • Diweddaru a chyfoethogi’r wefan a’r gwasanaethau a ddarperir
  • Efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon allanol er mwyn creu dadansoddiad marchnata ar gyfer HCC ac os digwydd hynny dim ond ar gyfer pwrpasau paru y caiff yr wybodaeth ei rhannu, a bydd y canlyniadau’n ddienw.

Pan fo’r wefan yn gofyn am wybodaeth bersonol, byddwn ni’n dweud wrthoch chi sut rydyn ni’n bwriadu defnyddio’r wybodaeth a byddwn ni’n gofyn i chi am eich caniatâd penodol. Heblaw am yr hyn a nodir uchod, ni fyddwn yn datgelu, gwerthu na rhentu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd barti os nad ydych chi wedi cydsynio i hyn. Os ydych chi’n cydsynio ond wedyn yn newid eich meddwl, gallwch gysylltu â ni a byddwn ni’n peidio unrhyw weithgaredd o’r fath.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan bwysig o sut mae Hybu Cig Cymru yn rhyngweithio gyda chi. Os ydych chi’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol (e.e. drwy fewngofnodi i Deulu Cig Oen Cymru gan ddefnyddio’ch cyfrif Facebook), byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd i gyrchu eich enw cyntaf a’ch enw olaf, eich cyfeiriad e-bost, a dyfais adnabod Facebook sy’n ein hysbysu eich bod wedi mewngofnodi ar Facebook. Gallwch gysylltu neu ddadgysylltu eich cyfrif Teulu Cig Oen Cymru o gyfrif ar wasanaeth arall (e.e. Facebook), drwy newid gosodiadau eich cyfrif.

Gallwch chi optio i mewn i dderbyn negeseuon marchnata wrth gofrestru ar y wefan a gallwch optio allan unrhyw bryd. Unwaith i chi optio i mewn, byddwn ni’n darparu’r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn amdanynt drwy e-bost. Os hoffech optio allan o dderbyn negeseuon marchnata, gadewch inni wybod ar info@hccmpw.org.uk.

 

Eich caniatâd

Drwy gofrestru â Theulu Cig Oen Cymru, rydych chi’n rhoi caniatâd i’r wybodaeth rydych chi’n ei chyflwyno’n wirfoddol gael ei chasglu a’i defnyddio, ar gyfer y pwrpasau a ddisgrifir uchod.

Dim ond yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol y caiff unrhyw wybodaeth bersonol ei defnyddio.

Mae ein holl negeseuon e-bost yn cynnwys opsiwn dad-danysgrifio fel y gallwch optio allan o negeseuon e-bost yn y dyfodol os hoffech wneud hynny.

 

Eich hawliau

Mae’r hawliau canlynol gennych:

  • Yr hawl i ofyn inni am gopïau o’r wybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanoch chi unrhyw bryd.
  • Yr hawl i ofyn inni ddiweddaru neu gywiro gwybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanoch chi sy’n anghywir neu sydd wedi dyddio.
  • Yr hawl i optio allan o negeseuon marchnata y gallwn ni (neu unrhyw drydydd parti rydyn ni wedi datgelu eich gwybodaeth bersonol wrthynt gyda’ch caniatâd chi) eu hanfon atoch
  • Yr hawl i ddileu eich data personol
  • Yr hawl i wneud cwyn
Share This