Mwynhewch ochr ysgafnach
Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Does dim byd tebyg i ginio rhost Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru gyda’r trimins i gyd.
Does dim curo chwaith ar bryd swmpus o bourguignon Cig Eidion Cymru gyda thatws stwnsh poeth neu bastai’r bugail Cig Oen Cymru â saws Morocaidd sbeislyd.
Fodd bynnag, oeddech chi’n gwybod y gallech chi hefyd fwynhau ochr ysgafnach Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru heb gyfaddawdu ar y blas? Mae’r dudalen hon yn llawn dop o brydau ysgafnach ac yn dangos i chi pa mor hyblyg yw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Bwyta’n ysgafnach, teimlo’n brafiach
Mae llawer o fanteision i fwyta prydau ysgafnach, yn enwedig gyda’r nos pan fydd ein cyrff yn paratoi i ymlacio. Mae’r buddion hyn yn cynnwys gwell cwsg, treuliad, metaboledd, ffocws, a rheolaeth ar bwysedd gwaed. Mae cig coch heb lawer o fraster, sy’n cael ei fwyta’n gymedrol ac fel rhan o ddiet iach a chytbwys, yn opsiwn gwych ar gyfer bwyta’n ysgafnach, gan sicrhau ein bod yn cael digon o’r fitaminau a’r mwynau hanfodol sydd eu hangen ar ein cyrff.
Bwytewch frasterau da yn gynharach yn y dydd
Mae braster yn ffynhonnell egni ac yn darparu asidau brasterog hanfodol na all y corff eu creu ar ei ben ei hun. Mae cig coch sy'n cael ei fwydo gan laswellt yn cynnwys Omega 3, sy'n hanfodol ar gyfer iechyd yr ymennydd.
Bwytewch broteinau yn gynharach yn y dydd
Mae cig coch yn ffynhonnell naturiol a rhagorol o brotein, a all helpu i leihau teimladau o fod yn llwglyd a lleihau cymeriant egni cyffredinol.
Rhowch hwb i'ch statws haearn
Mae cig coch yn ffynhonnell gyfoethog o haearn, sy'n helpu i leihau blinder a llesgedd. Gall bwyta cig coch heb lawer o fraster ynghyd â digon o lysiau gwyrdd roi hwb i'n statws haearn!
Cadwch bethau’n ysgafn ac yn gynnar
Gall bwyta pryd ysgafnach gyda'r nos, heb fod yn rhy agos at amser gwely, helpu ein cyrff i dreulio bwyd a defnyddio'r maetholion yn fwy effeithiol.
Syniadau ac awgrymiadau i gadw pethau’n ysgafn

Os nad yw hi’n fawr mae hi’n ddigon
…Mae hyn yn wir o ran faint o fwyd rydych chi’n ei roi ar eich plât. Bydd rheoli dognau nid yn unig yn eich helpu i fonitro eich cymeriant, ond mae hefyd yn golygu y gallwch gadw’r sbarion i’w mwynhau ryw ddiwrnod arall!

Prydau ochr
Mae llysiau gwyrdd a salad yn ychwanegiadau perffaith, yn enwedig yn ystod misoedd cynhesach yr haf. Gallwch barhau i fwynhau lasagne Cig Oen Cymru neu bastai pasta ragu Cig Oen Cymru – beth am gyfnewid sglodion neu fara garlleg am rywbeth ysgafnach fel salad neu lysiau gwyrdd.
Casgliad o ryseitiau
Rydyn ni wedi creu casgliad o rai o’n hoff ryseitiau sy’n ysgafnach ond sy’n dal yn llawn dop o flas unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. O brydau ysgafn Cig Oen Cymru i ryfeddodau hyfryd Cig Eidion Cymru – mae ‘na ddigon o ddewis.
Saladau ‘sblennydd

Salad poeth llawn lles Cig Oen Cymru

Cig Oen Cymru wedi’i ffrio mewn padell gyda salad ffa llydan, betys a ffeta

Salad Cig Eidion Cymru

Cebabs Cig Oen Cymru gyda couscous ffeta a llysiau’r haf wedi’u golosgi

Koftas Harissa Cig Oen Cymru

Cebabau Cig Oen Cymru â sbeis sumac gyda couscous blodfresych

Salad Asiaidd Cig Eidion Cymru a nwdls

Cebabs Cig Oen Cymru gyda phinafal, soi a tsili, gyda salad nwdls a llysiau’r gwanwyn
Ambell beth bach blasus

Medaliynau Cig Oen Cymru crimp yn null Peking

Cytledi Cig Oen Cymru o’r gradell gyda menyn teim a leim

Lolipops Cig Oen Cymru crensiog

Darnau o Gig Eidion Cymru mewn quinoa crensiog, gyda dipiau

Asennau gludiog o Gig Oen Cymru

Golwythion tandoori Cig Oen Cymru

Koftas Cig Eidion Cymru gyda llysiau cudd

Asennau pupur a halen Cig Oen Cymru
Prydau perffaith

Cig Oen Cymru crensiog gyda chrempogau

Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i rhostio’n araf

Brechdan Cig Eidion Cymru lwythog gyda mayonnaise radish poeth

Burrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog

Pizza Cig Oen Cymru a phesto gyda ffeta

Pizzas bychain Cig Eidion Cymru

Parseli tortilla tikka Cig Oen Cymru

Calzone Cig Eidion Cymru

Tarten Cig Oen Cymru, sbinaets a feta

Plât rhannu barbacoa Cig Eidion Cymru
Prydau tro-ffrio a chyrris

Katsu Cig Eidion Cymru

Lwyn Cig Oen Cymru sbeislyd gyda dahl

Cig Oen Cymru tanllyd y ddraig wedi’i dro-ffrio

Cig Oen Cymru gyda sinsir a shibwns wedi’i dro-ffrio

Tsili crenshlyd Cig Eidion Cymru

Tsili Cig Eidion Cymru gyda thaten felys bob a salsa tomato

Pad Thai Cig Eidion Cymru

Ramen hawdd Cig Oen Cymru
Rhywbeth rhyfeddol

Llygad yr asen o Gig Eidion Cymru gyda nwdls a kecap manis gan Hywel Griffith

Ffiled Cig Eidion Cymru tonnau a’r tir gan Gareth Ward

Stecen sbawd frith (featherblade) Cig Eidion Cymru gyda chimichurri

Rag Cig Oen Cymru gyda chrwst mwstard a pherlysiau

Stêc coes Cig Oen Cymru Thai gyda salad tomato a sinsir

Coes Cig Oen Cymru gyda chnau coco, tsili a choriander

Cytledi Cig Oen Cymru gyda menyn leim a sinsir

Ragiau Cig Oen Cymru gyda rhosmari, lemon a garlleg

Stêcs coes Cig Oen Cymru gyda chimichurri mintys
Rhagor o awgrymiadau ar goginio gyda Cig Oen Cymru
I gael rhagor o awgrymiadau ar sut i goginio’n iach gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, ewch i’n tudalennau Iechyd.