facebook-pixel

Salad Asiaidd Cig Eidion Cymru a nwdls

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 1 x 250g stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI
  • 1 llwy fwrdd olew, i ffrio
  • Sesnin

Ar gyfer y dresin:

  • Darn 3cm sinsir ffres, wedi’i gratio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u gratio
  • 1 leim, croen a sudd
  • 1 lemon, croen a sudd
  • 1 llwy fwrdd mêl rhedegog
  • 1 llwy fwrdd finegr gwyn
  • Pinsiad o halen
  • ¼ llwy de pupur du mâl ffres
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd neu olew sesame
  • 1 pak choi, wedi’i dorri’n fras
  • 300g nwdls ŵy wedi’u coginio
  • 1 tsili coch, wedi’i sleisio’n denau
  • Bag bach o ddail salad cymysg e.e. berwr y gerddi, spigoglys ifanc
  • 4 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n denau iawn
  • 25g cnau cashew neu gnau mwnci hallt wedi’u rhostio

Dull

  1. Gwnewch y dresin: rhowch y sinsir, y garlleg, croen a sudd y lemwn a’r leim, mêl, finegr gwyn, sesnin, ac olew mewn powlen, chwisgiwch y cyfan yn ysgafn.
  2. Ysgeintiwch ychydig o bupur du dros y stêc, cynheswch yr olew mewn padell ffrio a, dros wres uchel, ffriwch y stêc, gan ei throi unwaith a’i choginio at eich dant. (Tua 2 funud bob ochr ar gyfer gwaedlyd-ganolig, a 4 munud bob ochr ar gyfer canolig).
    Gadewch i’r stêc orffwys ar blât, rhowch ychydig o’r dresin ar y stêc a’i gorchuddio â ffoil i gadw’n gynnes.
  3. Rhowch y pak choi yn y badell ffrio a, dros wres uchel, llosgwch y llysieuyn ychydig am funud; tynnwch y pak choi o’r badell. Ychwanegwch y nwdls a’r tsili i’r badell gyda gweddill y dresin a hanner y shibwns a’u cymysgu nes eu bod yn chwilboeth.
  4. Sleisiwch y stêc.
  5. Rhowch y salad at ei gilydd: cymysgwch y pak choi i mewn i’r nwdls ac yna ychwanegwch y dail salad yn ysgafn a’i roi mewn powlen weini.
  6. Rhowch y tafelli o stêc ar ei ben a’i ysgeintio gyda’r cnau wedi’u torri a’r shibwns sy’n weddill.
Share This