facebook-pixel

Gwledda fel Gareth Ward

Gareth Ward

Mae Gareth yn cael ei ddisgrifio gan lawlyfr Michelin fel “gwirioneddol angerddol dros gig, gan ei drin â gwybodaeth a gofal”, ac mae’n cael ei enwi’n rheolaidd fel un o’r cogyddion mwyaf cyffrous sy’n coginio yn y DU heddiw. Ei fwyty Ynyshir Restaurant and Rooms sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yng Nghymru gyfan, ac mae ganddo ddau seren Michelin, pum rosette AA ac mae wedi’i enwi yn 5 uchaf y Good Food Guide (yn ogystal â chael ei enwi’n gogydd y flwyddyn ar gyfer 2019). Yn fwy diweddar urwddwyd fel bwyty’r flwyddyn ar gyfer 2022 yng ngwobrau’r National Restaurant of the Year. Mae Gareth yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes ganddo “ddim reolau, dim canllawiau” wrth iddo barhau i adeiladu ar y llwyddiant syfrdanol o droi lleoliad anghysbell – ond prydferth – yng nghanolbarth Cymru yn gyrchfan fwyd flaenllaw ynddo’i hun, a’r cyfan mewn cyfnod cymharol fyr.

Cig Oen Cymru i’w rannu…

Mae Cig Oen Cymru yn ddewis gwych i fwydo torf – mae cymaint o ddarnau i ddewis o’u plith. Mae hefyd yn gig hyblyg iawn y gellir ei ddefnyddio mewn llawer o fwydydd, a dyna’n union pam mae cogyddion campus fel Gareth yn ei ddefnyddio.

Mae rhywbeth arbennig am rannu bwyd da gyda’ch hoff bobl – yn enwedig os nad ydych chi wedi’u gweld nhw ers talwm. Felly, mae’n addas iawn eich bod chi’n gwneud ymdrech i roi gwledd go iawn iddyn nhw (a dangos eich sgiliau coginio newydd!).

Mae Gareth yn enwog am greu prydau anhygoel i’w gwsmeriaid yn Ynyshir, ac i nodi Calan Oen, mae wedi rhannu dau o’i ffefrynnau Cig Oen Cymru gyda ni. Maen nhw’n berffaith i’w gweini i 6-8 o bobl ar yr achlysur arbennig ‘na y mae mawr ddisgwyl amdano.

Cefnddryll Cig Oen Cymru

Mae’r pryd hyfryd hwn yn asio blasau traddodiadol cig oen a mintys ond gydag awgrym bach o nionyn picl! Ond nid unrhyw hen nionyn picl mo hwn, dyma nionyn picl Gareth Ward.

Y rysait llawn: Rag Cig Oen Cymru a mintys Gareth Ward

Shawarma Cig Oen Cymru

Crewch argraff ar eich ffrindiau a’ch teulu gyda phryd sy’n berffaith i’w rannu. Sleisys suddlon o Gig Oen Cymru gyda garneisiau blasus a bara croyw.

Y rysait llawn: Shawarma Cig Oen Cymru Gareth Ward

Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig?

Mae Gareth yn credu’n gryf yng Nghig Oen Cymru oherwydd iddo ef, mae’n rhan o DNA’r genedl i’w gynhyrchu.

Angerdd y ffermwyr, y tir y mae eu da byw yn cael ei fagu arno a’r glaswellt maen nhw’n ei fwyta – mae’r rhain i gyd yn cyfuno i greu cynnyrch unigryw. Rwy’n cael mwynhad arbennig o’i goginio oherwydd fy mod i’n gweld angerdd ac ymroddiad y ffermwyr – bob wythnos. Mae ei gynhyrchu yn greiddiol i’w bywyd ac mae hyn i gyd yn amlwg yn y blas. Mae gallu ei olrhain i’r fferm lle cafodd ei fagu hefyd mor bwysig ac yn eithaf arbennig. Hefyd, mae’r ffaith ei fod mor hyblyg yn caniatáu i chi arbrofi gyda gwahanol flasau a dulliau coginio.

Gareth Ward

Cyngor campus Gareth ar gyfer coginio gyda Chig Oen Cymru

Rydych chi wedi prynu darn hyfryd o Gig Oen Cymru, ond sut mae rhoi’r parch mae’n ei haeddu iddo? Sut mae cael y blas gorau ohono? Dyma gyngor gwych Gareth am Gig Oen Cymru:

Dewch i adnabod eich cyflenwr

Coginiwch y braster arno bob tro

(hyd yn oed os byddwch chi’n ei dynnu nes ymlaen)

Cadwch y tymheredd yn isel ac yn araf wrth goginio

Tynerwch y cig cyn ei goginio

Coginiwch ar yr asgwrn bob tro

(os yn bosibl)

Mwynhewch y profiad o goginio

Share This