facebook-pixel

Stêcs coes Cig Oen Cymru Chris ‘Flamebaster’ Roberts’ gyda salsa golosgedig a bara croyw

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 stêc coes Cig Oen Cymru PGI
  • Olew ansiofi
  • Halen môr
  • 4 sialotsyn
  • 1 lemwn
  • 1 bylb garlleg
  • 1 pupryn coch
  • 1 pupryn gwyrdd
  • 2 tsili coch
  • 500g mintys ffres, wedi’i glymu mewn clwstwr
  • 100g yr un o rosmari ffres a theim ffres, wedi’u clymu mewn clwstwr
  • 100g persli dail gwastad
  • 1 llwy de haenau tsili
  • 125g menyn heb halen
  • Olew olewydd ifanc iawn
  • Finegr seidr afal
  • Toes bara croyw, digon i wneud 4 bara croyw

Dull

  1. Ychwanegwch y sialóts, ​​y lemwn, y puprynnau, y tsilis a’r clwstwr o fintys yn syth ar lo poeth y barbeciw. Rhowch ychydig o olew olewydd dros y mintys a gadewch iddo olosgi, ynghyd â’r llysiau, gan eu troi’n achlysurol.
  2. Unwaith y bydd y llysiau a’r mintys wedi golosgi’n dda, tynnwch nhw allan o’r barbeciw a’u rhoi o’r neilltu.
  3. Rhowch ychydig o olew ansiofi ac ychydig o halen ar y stêcs coes cig oen.
  4. Rhowch y stêcs ar silff grilio’r barbeciw, ochr y braster i lawr.
  5. Tra bod y stêcs yn coginio, toddwch y menyn mewn tun rhostio bach gwrth-fflam ar y gril. Defnyddiwch y clwstwr o rosmari a theim i frwsio’r menyn wedi toddi ar y stêcs. Coginiwch y stêcs am tua 4-6 munud bob ochr, yn dibynnu ar drwch y stêc.
  6. Ar ôl i’r stêcs goginio, rhowch nhw mewn tun, gorchuddiwch â ffoil, a’u rhoi o’r neilltu i orffwys am 10 munud.
  7. Yn y cyfamser, gwnewch y salsa. Torrwch y puprynnau a’r tsilis yn fras. Gwasgwch y sialóts a’r garlleg allan o’u crwyn. Torrwch y sialóts, ​​y mintys golosgedig, a’r persli dail gwastad yn fras.
  8. Trosglwyddwch y llysiau a’r perlysiau wedi’u torri i bowlen, ychwanegwch sudd y lemwn wedi’i goginio, ysgeintiwch ychydig o halen môr a haenau tsili at eich dant, ychydig o olew olewydd a finegr seidr afal. Cymysgwch yn dda a’i roi o’r neilltu.
  9. Ar arwyneb â blawd arno, rhannwch y toes bara croyw yn bedair pelen. Rholiwch bob pelen, gan eu siapio’n gylch yn fras. Rhowch y bara croyw ar y gril a choginiwch am 1-2 funud bob ochr, yn dibynnu ar drwch y bara croyw.
  10. I weini, sleisiwch y stêcs a’u rhoi ar blât gweini gyda’r salsa a’r bara croyw. Gorffennwch gyda diferyn o’r suddoedd gorffwys.
Share This