facebook-pixel

Y 7 cwestiwn sy’n cael eu gofyn amlaf am gig coch … a’r atebion!

Mae un o brif arbenigwyr rheoli pwysau Cymru, Sioned Quirke yn chwalu’r chwedlau am fwyta cig coch. Mae Sioned yn Rheolwr Deieteg, Deietegydd Arbenigol a maethegydd sy’n ymddangos ar y teledu. Yma mae hi’n rhoi gwybodaeth i ni ar fuddion a gwerth maethol cig coch a’r rôl hanfodol y mae’n ei chwarae mewn diet iach a chytbwys.

1. Ydy hi’n iawn bwyta cig coch?

Dewch i ni ddechrau gyda’r cwestiwn craidd. I fwyta cig coch ai peidio. Yn y bôn, chi sydd i benderfynu beth rydych chi’n ei fwyta, ond yma byddwn ni’n cyflwyno’r ffeithiau i chi. A’r brif ffaith yw, ydy, mae’n iawn bwyta cig coch. Gellir bwyta cig coch fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru fel rhan o ddiet cytbwys iach. Mewn gwirionedd, pe byddech chi’n dileu cig coch yn llwyr o’ch diet, gallech chi fod yn gwneud anghymwynas â chi’ch hun. Mae ansawdd y maetholion mewn cig coch yn ei gwneud hi’n haws i’r corff eu defnyddio’n effeithlon. Gallwch chi fwynhau cig coch a chael y gorau ohono os ydych chi’n ei fwyta heb lawer o fraster ac yn gymedrol.

Gwyliwch awgrymiadau a chyngor Sioned yma.

2. A all cig coch fod yn rhan o ddiet iach?

Yn bendant! Mae gwerth maethol cig coch yn drawiadol. Mae’n cynnwys amrywiaeth o faetholion buddiol gan gynnwys protein, brasterau iach, fitaminau a mwynau – pob un yn bwysig ar gyfer swyddogaethau hanfodol yn y corff ac i gynnal iechyd. Er bod cig coch yn cynnwys braster, nid yw’r holl fraster hwn yn afiach. Mae cig coch yn cynnwys llawer o haearn sy’n bwysig i wneud celloedd coch y gwaed, ac os na chawn ni ddigon o haearn, gallwn ni deimlo’n flinedig ac wedi ymlâdd.

Gwyliwch awgrymiadau a chyngor Sioned ar sut i wneud y gorau o gig coch mewn diet iach.

3. Pam fod angen haearn arnaf yn fy niet?

Mae haearn yn fwyn sy’n ofynnol gan y corff ar gyfer sawl rôl wahanol gan gynnwys gwneud celloedd coch y gwaed sy’n cludo ocsigen o amgylch y corff. Os na chawn ni ddigon o haearn rydym ni mewn perygl o ddatblygu anemia diffyg haearn, fydd yn gwneud i ni deimlo’n flinedig, yn wan ac yn bigog. Mae ffynonellau haearn sy’n seiliedig ar anifeiliaid fel cig coch, er enghraifft Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffynonellau haearn arbennig o gyfoethog ac mae’n haws i’r corff eu hamsugno. Oeddech chi’n gwybod, er bod bwyta digon o lysiau wyrdd yn beth da, gall bwyta cig coch ochr yn ochr â nhw roi hwb i’ch statws haearn!

Gwyliwch Sioned i gael rhagor o wybodaeth am haearn yn eich diet.

4. Pam mae cig coch yn cael ei ystyried yn brotein cyflawn?

Mae angen protein ar bawb yn eu diet. Mae’n faeth hanfodol ac yn annog màs cyhyrau a thwf ac atgyweirio celloedd y corff. Mae cigoedd coch fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gyfoethog iawn o brotein ac yn cael eu hystyried fel protein cyflawn, gan eu bod yn cynnwys pob asid amino sydd ei angen arnom ni. Mae hyn yn golygu y gall y corff ei amsugno a’i ddefnyddio’n effeithlon ac yn effeithiol iawn o’i gymharu â ffynonellau protein eraill. Mantais arall bwyta bwydydd sy’n llawn protein yw eu bod yn tueddu i wneud inni deimlo’n llawnach na bwydydd sy’n cynnwys llawer o garbohydradau neu fraster. Felly gall cynnwys ffynhonnell o brotein heb lawer o fraster gyda phryd bwyd ein helpu i deimlo’n llai llwglyd a lleihau’r cymeriant egni cyffredinol. Mae astudiaethau hefyd yn awgrymu y gallwn elwa o fwyta mwy o brotein wrth inni heneiddio oherwydd ei fod yn helpu i leihau’r colled cyhyrau sy’n gysylltiedig â heneiddio.

Gwyliwch Sioned yn egluro beth mae protein cyflawn yn ei olygu.

5. Ydy'r braster mewn cig coch yn ddrwg i mi?

Nawr, dewch inni ddelio â’r bwgan arall… braster. Mae braster wedi bod yn bwnc llosg yn y cyfryngau ers blynyddoedd a gall fod yn ddryslyd beth i’w gredu. Y gwir yw bod braster yn rhan hanfodol o’r diet. Mae’n cario fitaminau hydawdd braster fel Fitamin A, D, E a K ac mae’n ffynhonnell egni. Efallai eich bod hefyd wedi clywed am Omega 3. Mae’r rhain yn fath o asid brasterog hanfodol na all y corff wneud digon ohono, felly mae angen i’r diet eu cyflenwi. Maen nhw’n bwysig i atal afiechydon cronig ac i iechyd y galon.

Gwyliwch Sioned i’ch helpu i wahaniaethu rhwng y brasterau da a’r brasterau drwg a sut i wneud addasiadau wrth goginio cig coch.

 

6. A yw bwyta cig coch yn dda i'm system imiwnedd?

Mae ‘imiwnedd’ yn air sy’n cael ei ddefnyddio lawer yn ddiweddar, felly mae mor bwysig ag erioed deall sut i gynnal ein system imiwnedd. Mae angen amrywiaeth o faetholion ar y system imiwnedd er mwyn gweithio cystal ag y gall. Mae fitaminau’n hanfodol i imiwnedd wrth iddyn nhw wneud ac atgyweirio pob un o’r celloedd yn y corff, ac mae haearn a sinc yn ymwneud â gwneud a chynnal celloedd gwyn y gwaed sy’n brwydro’n erbyn haint. Nid yw’n hysbys yn eang, ond gall cig coch, yn enwedig cig o anifeiliaid sy’n cael eu bwydo ar laswellt fel Cig Oen Cymru, gyfrannu at gymeriant Omega 3 sy’n bwysig i’r system imiwnedd trwy wneud a chynnal celloedd gwyn y gwaed.

Gwyliwch gyngor Sioned ar gig coch a’ch system imiwnedd.

7. A ddylai pobl o bob oedran fwyta cig coch?

Gall cig coch, sy’n fwyd protein o ansawdd uchel sy’n llawn maetholion, chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i gwrdd â’n hanghenion maethol hanfodol trwy gydol ein cylch bywyd. O flynyddoedd twf a datblygiad babandod a phlentyndod hyd at ein gweithredoedd gwybyddol a chorfforol fel oedolion hŷn, bydd ein gofynion maeth yn amrywio. Hefyd, gall bwyta cig coch yn y dognau a argymhellir yn ystod beichiogrwydd arwain at nifer o fuddion iechyd.

Gwyliwch Sioned yn egluro manteision bwyta cig coch ym mhob cam o fywyd.

Share This