facebook-pixel

Amser grilio!

Gallwch chi goginio bron unrhyw beth ar y barbeciw, ond mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn rhagori.
I’ch helpu i gael y gorau o’ch barbeciw, rydyn ni wedi llunio cyngor coginio campus ac wedi ychwanegu ryseitiau blasus i chi brofi eich sgiliau ar y griliau!
P’un a ydych chi’n ddechreuwr llwyr, neu’n giamster ar y gril, mae rhywbeth yma i bawb.
Felly byddwch yn barod i gael barbeciw bendigedig – unrhyw dro, bob tro!

Cyngor campus ar gyfer barbeciw perffaith

Rydych chi wedi cyhoeddi eich bod chi’n cael barbeciw ac mae’r barbeciw wedi dod allan o’i gartref gaeafgysgu. Felly beth nesaf? Gwyliwch ein fideo i gael awgrymiadau ar sut i greu argraff gyda’ch barbeciw.

Yr offer hanfodol ar gyfer barbeciw llwyddiannus

Does neb eisiau colli darn blasus o gig rhwng y griliau, felly mae’n bwysig cael yr offer cywir. Gallwch chi ymestyn oes eich offer barbeciw trwy ei gynnal a’i gadw a gwneud yn siŵr ei fod yn lân.

Gwleddoedd barbeciw blasus

Tywydd braf… diwrnod o haf… beth sy’n coginio ar eich barbeciw chi?

Prydau perffaith Cig Oen Cymru

Mae Cig Oen Cymru yn serennu ar y barbeciw. Gall gario llawer o flasau, felly cyn iddo daro’r gril, mae’n ddelfrydol wedi’i farinadu. Gallwch chi goginio byrgyrs neu olwythion yn syth ar y gwres, neu bydd coes neu ysgwydd yn coginio’n araf ar wres anuniongyrchol. Pa bynnag ffordd rydych chi’n ei goginio, bydd yn flasus iawn. Dyma ein hoff ryseitiau barbeciw i chi roi cynnig arnyn nhw.

Ryseitiau rhagorol Cig Eidion Cymru

Pa farbeciw gwerth ei halen sydd heb arddangosfa o fyrgyrs cig eidion yn coginio’n braf arno? O stêcs syfrdanol a byrgyrs bendigedig i frisged ffantastig a salad sitrws – dylai ein ryseitiau barbeciw Cig Eidion Cymru danio eich dychymyg. Rydyn ni hyd yn oed wedi cynnwys ryseitiau ar gyfer plant sy’n gwrthod bwyta llysiau!

Cornel y cogyddion

Cyngor tanbaid gan Hywel Griffith...

Mae Hywel Griffith, prif gogydd bwyty Beach House, Oxwich yn ffan enfawr o Gig Oen Cymru. O ran coginio cig oen ar y barbeciw (neu mewn ysmygwr), mae Hywel yn credu ei fod yn ‘benthyg ei hun yn hollol berffaith’. Mae ysgwydd neu frest yn fwyaf addas ar gyfer coginio hirach ac arafach, tra gellir coginio’r pen gorau, rag cig oen a choesau yn ganolig-gwaedlyd – yn gyflym a thros wres uchel. (Mae’n well gan Hywel goginio coesau’n ganolig-da.) Gwyliwch Hywel yn creu’r Ysgwydd Cig Oen Cymru danbaid yma gydag ychydig o ysbrydoliaeth gan Fôr y Canoldir. Mwynhewch!

Grilio gwych! HILLS yn rhannu ambell gyfrinach danbaid...

Y gyfrinach i fyrgyr da yw ansawdd y cig, a chewch chi ddim gwell ansawdd na Chig Eidion Cymru. Dyna pam mae bwyty byrgyrs HILLS (a gyrhaeddydd rownd derfynol Gwobrau Byrgyr Cenedlaethol y DU) yn defnyddio dim byd ond briwgig Cig Eidion Cymru. Gwyliwch Owain Hill yn creu byrgyr sy’n ddigon da i’w weini mewn bwyty – y darnau o gig eidion a ddefnyddir yn y briwgig, a phwysau a thymheredd pob byrgyr cyn ei goginio sy’n bwysig – o, a bynsen gadarn dda i gofleidio’r byrgyr llawn sudd ‘na!

Byddwch yn feiddgar ar y barbeciw! Chris ‘Flamebaster’ Roberts a Black Axe Mangal sy’n dangos sut…

Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol gyda Chig Oen Cymru, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Ymunodd Chris ‘Brenin y Barbeciw’ Roberts (a’n Cig-gennad y llynedd) â’i ffrind a’i gyd-arbenigwr bwyd Lee Tiernan o fwyty Black Axe Mangal yn Llundain i greu cyfres o ryseitiau fideo unigryw.

Wedi’u ffilmio yng nghalon Eryri, mae Lee a Chris yn rhannu awgrymiadau coginio mewnol gyda’i gilydd wrth iddyn nhw greu pedair rysáit danllyd, flasus, gyffrous sy’n arddangos Cig Oen Cymru fel nad ydych erioed wedi’i weld o’r blaen.

Share This