Beth yw PGI?
Mae Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig - neu PGI - yn ffordd o gydnabod bwyd sy'n dod o ardal benodol. Mae hyn yn golygu bod Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn wahanol ac mae ganddo nodweddion sy'n unigryw i Gymru ac ni ellir eu hailadrodd mewn unrhyw le arall. Darllen mwy![PGI WL WB GI_outline_235h](https://eatwelshlambandwelshbeef.com/wp-content/uploads/2021/11/PGI-WL-WB-GI_outline_235h-1.png)
Yr hanes tu ôl i’r bwyd
Er mwyn gallu gwerthfawrogi’r cariad a’r angerdd sydd ynghlwm â chynhyrchu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, fe aethom i ymweld â Katie Davies ar ei fferm thir uchel yn Nantymoel i ddysgu mwy am yr hyn y mae ffermio yn ei olygu iddi hi. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r fideo gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau cofnodi hanes Katie.
Arferion ffermio
Mae ansawdd ein cig oen a chig eidion yn cael ei greu gan arferion ffermio da yn un o’r amgylcheddau ffermio gorau yn Ewrop.
Amgylchedd
O ran cynhyrchu cig o safon, mae gan Gymru yr amgylchedd perffaith. Mae ein awyr iach, porfeydd breision a nentydd mynydd croyw yn cynhyrchu rhagoriaeth, a hynny yn naturiol.
Olrheinedd
Diolch i’r canllawiau PGI, gallwch olrhain eich cig yr holl ffordd yn ôl i’r fferm, gan roi’r sicrwydd i chi eich bod yn prynu’r gorau gan ffermwyr dibynadwy sydd yn gweithredu safonau lles uchel.