facebook-pixel

Beth yw PGI?

Gwir nod ansawdd – Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI)

Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gynhyrchion sy’n deillio o dirwedd o harddwch unigryw sydd wedi’i fendithio ers canrifoedd â’r cynhwysion naturiol puraf oll – awyr iach, dŵr ffynnon pur, porfa ffres a grug persawrus. Mae’r cymysgedd hwn o oreuon byd natur, ynghyd ag arferion ffermio traddodiadol dros sawl cenhedlaeth, wedi helpu i gynhyrchu’r cig o ansawdd uchel sy’n cael ei werthfawrogi ledled y byd.

I gydnabod y rhinweddau unigryw hyn, mae’r Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi dyfarnu’r statws prin o Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Mae hyn yn golygu bod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mewn cwmni dethol sy’n cynnwys Ham Parma a bwydydd arbenigol eraill ag enwau gwarchodedig o bob cwr o’r byd. Mae hynny’n rhywbeth sy’n werth ei ddathlu.

Nod cynllun enwau bwydydd gwarchodedig y CE yw i gadw a hyrwyddo’r bwydydd nodedig hynny sy’n unigryw i’w tirwedd – bwyd â chymeriad gaiff eu creu â chariad ac sydd â chysylltiad di-dor â’r tir o’r lle maen nhw’n dod ohono. Bwydydd fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Felly, pan welwch y bathodyn dilysrwydd clodfawr hwn gallwch fod yn hyderus bod yr ŵyn a’r gwartheg wedi’u geni a’u magu yng Nghymru; wedi cael rhyddid i grwydro ar draws ein cynefin naturiol iach; ac wedi cael y gofal gorau posibl gan ffermwyr â chanrifoedd o brofiad o’r arferion amaethyddol gorau.

Gallwch fod yn siŵr fod ein cig yn cael ei baratoi mewn lladd-dai cymeradwy a bod modd olrhain pob anifail yn llawn. Dydyn ni byth yn cyfaddawdu ar y bwyd o ran ei ddiogelwch, ansawdd nac olrheinedd. Ac rydym yn cynnal archwiliadau pob cam o’r broses.

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau ansawdd yn ein Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru; ac mae PGI yn ein gosod ar wahân i’r lleill.

Awydd coginio cig Cymreig blasus wedi’i warchod gan PGI? Cymerwch gip ar ein dewis eang o ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru am ysbrydoliaeth.

Share This