facebook-pixel

Sut ydych chi’n byw eich bywyd?

Cydnabyddir bod diet cytbwys a digon o ymarfer corff yn creu llwybr tuag at ffordd o fyw iach a hapus. Dylai diet iach a chytbwys gynnwys amrywiaeth o wahanol fwydydd.

Mae cig coch yn llawn maetholion

O fwyta’r maint cywir, mae nifer o fanteision iechyd i sicrhau bod cig coch yn eich diet chi a’ch teulu, gan gynnwys haearn sy’n helpu lleihau blinder a lludded, Fitaminau B sy’n cynhyrchu ynni a zinc, sy’n helpu’r system imiwnedd i weithio’n iawn. Mae cig coch hefyd yn cynnwys ffosfforws, sy’n angenrheidiol i dyfu a datblygu esgyrn plant yn iawn ac mae hefyd yn llawn protein, felly mae’n ddelfrydol mewn pryd tro-ffrio cig eidion sydyn ar ôl sesiwn yn y gampfa i’ch helpu chi adfer, adeiladu a chynnal màs y cyhyrau a theimlo’n egnïol.

Felly os ydych chi’n treulio amser ac ymdrech yn byw bywyd iach ac egnïol, yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a gofalu amdanoch eich hun, oni fyddai’n dda gwybod bod eich bwyd yn gweithio yr un mor galed?

Yn achos Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, gallwch chi wneud hynny’n union. Diolch i’r statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) enwog, gallwch chi fod yn sicr bod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn fwyd naturiol, y gellir ei olrhain i fferm yng Nghymru. Mae ffermwyr wedi ymroi i gynhyrchu’r Cig Oen Cymru a’r Cig Eidion Cymru gorau y gellir ei brynu – maen nhw’n poeni am yr hyn maen nhw’n ei gynhyrchu, yn yr un modd â rydych chi’n poeni am yr hyn rydych chi’n ei fwyta.

Ac wrth i arogl cyntaf mwg pren lenwi awyr yr haf… ymlaciwch. Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd heb lawer o fraster heb eu hail ar y barbeciw, sy’n ffordd wych o fwynhau cig coch heb lawer o fraster. Beth well na stêc flasus heb fraster gyda salad gwyrdd crimp. Neu, os ydych chi’n hoffi ychydig o ‘couscous’ ar eich plat mewn barbeciw, rhowch gynnig ar rywbeth bach gwahanol fel ein Cebabau Cig Oen Cymru â sbeis sumac. Am ragor o ryseitiau cliciwch yma

Share This