facebook-pixel

Prynu’n lleol. Meddwl yn fyd-eang.

Er eu bod nhw’n flasus iawn, mae cymaint mwy i Gig Eidion Cymru na byrgyrs, stêcs a chinio dydd Sul – mae mor hyblyg! Darganfyddwch flasau newydd o bedwar ban y byd ar eich antur goginio gyda’n detholiad gwych o fwyd y byd. Chewch chi mo’ch siomi, mae hynny’n sicr.

​Blasu’r byd o’ch cartref

Asiaidd

Mae Asia yn gyfandir enfawr, ac mae’n cynnig ystod eang o fwydydd. Awn ni ar daith trwy ddiwylliannau a bwyd o ryseitiau Dwyrain Asia fel pryd tro-ffio cig eidion tanbaid, cig eidion creisionllyd Tsieineaidd a chyri katsu cig eidion campus i is-gyfandir India lle rydym ni’n eich helpu i roi tro ar glasuron cyri cig eidion o rysáit madras cig eidion hyfryd i rendang cig eidion rhagorol.

Ffrengig

Gyda chanrifoedd o ddylanwadau coginio o bob cwr o’r byd, mae prydau bwyd Ffrengig modern yn gyfystyr â bwyd moethus a chogyddion o’r radd flaenaf. Dyma gartref nouvelle cuisine, mudiad sy’n canolbwyntio ar brydau ysgafnach, mwy ffres, ac mae gan Ffrainc lawer o fwydydd rhanbarthol traddodiadol hefyd. Rhowch gynnig ar glasuron fel steak au poivre neu ein rysáit bourguignon cig eidion – sydd lawn cystal mewn pastai llawn sbarion! – neu syniadau newydd fel ein goujons cig eidion.

Eidalaidd

Mae bwyd Eidalaidd yn adnabyddus ledled y byd, ac mae’n canolbwyntio ar gynhwysion o safon a wneir yn dda felly beth well na’n Cig Eidion Cymru ni? Gyda phrydau clasurol, adnabyddus fel lasagne cig eidion, calzone a pizzas cig eidion, dyma fwyd da ar ei orau.

America Ladin

O tortillas cig eidion i tacos cig eidion, chimichurri i tsili cig eidion, mae bwyd America Ladin yn gweddu i bob chwaeth. Ychwanegwch rywbeth arbennig at eich bwydlen wythnosol gyda phastai enchilada neu beth am greu cinio dydd Sul amgen gyda burrito pwdin Swydd Efrog – gwych neu gwarthus, chi bia’r dewis!

Gogledd America

Mwynhewch flasau Gogledd America gyda’n ryseitiau cig eidion barbeciw a gril blasus. Cig eidion wedi’i goginio’n araf yn llawn dop o flas, felly am ginio dydd Sul llawn steil neu ddanteithion i’w bwyta wrth wylio gêm bwysig, dywedwch “yeehaw” i’r prydau hyn!

Gweddill y byd

Mae’n fyd mawr! Er nad ydyn nhw’n ffitio i mewn i rai o’r categorïau uchod, allwn ni ddim anwybyddu’r danteithion hyn. Mae ein pryd koftas cig eidion yn deyrnged i fwyd Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol, gyda’r llysiau cudd yn berffaith i gadw’r bwytawyr mwyaf ffyslyd yn hapus, tra bod ein stroganoff cig eidion hawdd yn bryd cynnes perffaith â gwreiddiau Rwsiaidd.

Deg awgrym ar gyfer eich antur goginio fyd-eang

Mae Cig Eidion Cymru mor hyblyg, ond bydd deall cyfansoddiad cig yn eich helpu i ddewis y dull gorau o goginio ar gyfer darn penodol. Mae cig sydd wedi’i aeddfedu am gyfnod hirach yn tueddu i fod yn dywyll ac yn gadarn ac mae’n llawn blas. Gall lliw y cig neu’r braster amrywio, ond nid yw hyn yn effeithio ar ansawdd y blas. Mae Cig Eidion Cymru ar gael yn helaeth mewn siopau cigyddion, siopau fferm ac archfarchnadoedd. I baratoi, coginio a mwynhau Cig Eidion Cymru ar ei orau, dilynwch ein hawgrymiadau:

Hang Fire Southern Kitchen

Dechreuodd Samantha Evans a Shauna Guinn Hang Fire Southern Kitchen fel stondin fwyd stryd barbeciw mewn arddull De UDA yng Nghaerdydd. Bellach wedi’i leoli yn y Barri, mae’r bwyty’n dibynnu’n llwyr ar gynnyrch ffres, moesegol ac mae’n cynnig clasuron bwyd Louisiana gan ddefnyddio gril Parrilla yr Ariannin a adeiladwyd yn arbennig iddyn nhw. Dyw cynnyrch o safon ddim yn ddieithr iddyn nhw (edrychwch ar eu rysáit Tagine Cig Oen Cymru) ac mae’n hen bryd i Gig Eidion Cymru gael ei goginio ar y gril!

Gwyliwch Samantha a Shauna yn coginio stecen Picañha a sawsiau a chonfennau gwych fel chimichurri, chermoula a harissa coch i fynd gyda hi.

Daw Picañha o ran frau iawn y ffolen a dyma’r cig a ffefrir ar gyfer ‘churrasco’ Brasilaidd – cig eidion wedi’i grilio. Mae’r darn yn dod yn fwyfwy poblogaidd mewn siopau cigyddion ac archfarchnadoedd, felly gellir ei fwynhau gartref yn eich churrascaria eich hun!

Y 10 cynhwysyn gorau gyda chig eidion

Gall Cig Eidion Cymru serennu mewn amrywiaeth o brydau a bwydydd. Beth am fod yn greadigol gyda pherlysiau a sbeisys, confennau, sawsiau a llysiau! Dyma ambell beth sy’n gweddu’n berffaith i Gig Eidion Cymru. Mae llawer mwy ar gael, felly byddwch yn greadigol!

 

Ryseitiau fideo

Edrych am fwy?
Dyma ryseitiau Cig Oen Cymru o bedwar ban byd…

Share This