facebook-pixel

Olrheinedd

Wrth brynu cig, rydych chi eisiau gwybod o ble mae wedi dod, sut y cafodd ei fagu ac ym mha wlad y cafodd ei gynhyrchu.

Rydym yn ymfalchïo bod cariad a gofal ein ffermwyr wrth iddyn nhw gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi cael ei gydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy gyfrwng statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI). Gallwch gael rhagor o fanylion am y dynodiad prin hwn yma. Ond un fantais benodol ynglŷn â statws PGI yw ei fod yn nodi union darddiad eich cig.

Mae’r awdurdod cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC), yn gweithredu fel gwarcheidwad i ddynodiadau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Rydym yn sicrhau fod ein cadwyn gyflenwi yn cynnal safonau uchel iawn.

Mae hyn yn golygu bod rhaid gallu olrhain pob anifail bob cam o’r cae i’r cigydd neu’r archfarchnad.

Rhaid i bob lladd-dy ac uned brosesu sy’n defnyddio dynodiadau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gael eu cymeradwyo gan HCC. Rydym yn cynnal archwiliadau yn flynyddol.

Rhaid i’n cig coch gydymffurfio â holl ofynion rheoleiddiol llywodraeth ac â’r canllawiau arferion gorau.

Ac os yw mân-werthwr yn rhoi label PGI ar gig oen neu gig eidion nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion, mae hynny’n drosedd a gallai arwain at erlyniad gan swyddogion Safonau Masnachu.

Felly nawr eich bod chi’n gwybod y gallwch chi ymddiried yn ein cig, gallwch chi ddechrau coginio! Cymerwch gip ar ein dewis eang o ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru am ysbrydoliaeth

Share This