facebook-pixel

Cig Oen Cymru wedi’i ffrio mewn padell gyda salad ffa llydan, betys a ffeta

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 3

Bydd angen

  • 1 x lwyn heb esgyrn (canon) Cig Oen Cymru PGI neu 2 x stêc coes Cig Oen Cymru PGI

Ar gyfer y rhwbiad:

  • 1 llwy de cwmin mâl
  • 1 llwy de coriander mâl
  • ½ llwy de powdr garlleg
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Cnepyn bach o fenyn

Ar gyfer y salad:

  • 150g ffa soia neu ffa llydan ffres neu wedi’u rhewi
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i sleisio’n fân
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 2 sbrigyn rhosmari ffres, wedi’u torri’n fras ar ôl tynnu’r dail
  • 4 betysen fach wedi’u coginio, wedi’u chwarteru
  • Llond llaw o ddail berwr
  • Llond llaw o ddail mintys
  • 75g caws ffeta, wedi’i dorri’n giwbiau

Ar gyfer y dresin:

  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 llwy fwrdd mêl rhedegog
  • 1 lemon, sudd a chroen

Dull

  1. Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y rhwbiad a’u defnyddio i orchuddio’r cig oen.
  2. Coginiwch y ffa yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn, yna draeniwch nhw a’u hoeri mewn dŵr oer. Pliciwch y croen oddi ar y ffa llydan, gan y bydd y lliw yn llawer mwy llachar (dewisol).
  3. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a, dros wres uchel, seriwch y cig oen ar bob ochr, gan ofalu peidio â’i losgi. Trowch y gwres i lawr ac ychwanegu’r menyn. Coginiwch am tua 4 munud bob ochr neu at eich dant, gan ei droi’n achlysurol a’i frasteru gyda’r menyn. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres, gorchuddiwch â ffoil a gadewch iddo orffwys tra byddwch chi’n gorffen y salad.
  4. Yn yr un badell, cynheswch ychydig o olew, ychwanegwch y winwnsyn a’r garlleg a’i droi. Ychwanegwch y betys a’r rhosmari a lliwiwch y betys yn ysgafn, tua 5 munud. Tynnwch allan o’r badell a gadewch iddo oeri.
  5. Torrwch y cig oen yn dafelli tenau.
  6. Cymysgwch weddill y cynhwysion salad mewn powlen, ychwanegwch y ffa a’r cymysgedd betys yna arllwyswch y dresin drosto a gweinwch ar unwaith gyda’r cig oen cynnes a’r ffeta.
Share This