facebook-pixel

Cig Eidion Cymru ac iddo grwst perlysiau

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Darn o Gig Eidion Cymru PGI (toriadau addas: ochr orau / ystlys las / syrlwyn neu asen)
  • 2 foronen, wedi’u haneru ar eu hyd
  • 1 winwnsyn nionyn mawr, wedi’i sleisio’n drwchus

Ar gyfer y crwst:

  • Llond llaw o ddail teim ffres, rhai wedi’u torri’n fân ar gyfer y crwst
  • 3 sbrigyn o rosmari, un wedi’i dorri’n fân ar gyfer y crwst
  • 2 lwy fwrdd o olew
  • 1 lemon, y croen a’r sudd
  • 4 ewin garlleg, wedi’u torri’n fras
  • 1 llwy fwrdd o hadau cwmin
  • 1 llwy de o hadau ffenigl
  • ½ llwy de o bupur du garw
  • Pinsiad o halen

Dull

  1. Cyfrifo’r amser coginio: Canolig-gwaedlyd: 20 munud y 500g /  Canolig: 25 munud y 500g / Yn dda iawn: 30 munud y 500g
  2. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 220°C / 200°C ffan / Nwy 7.
  3. Tynnwch y cig o’r oergell o leiaf 30 munud cyn ei goginio er mwyn caniatáu iddo gyrraedd tymheredd yr ystafell.
  4. Gosodwch y llysiau a’r sbrigynnau perlysiau ar waelod tun rhostio i greu trybedd, a gosodwch y cig ar ei ben.
  5. Rhowch y garlleg, yr hadau a’r pupur a halen mewn breuan a phestl a’u gwasgu’n ysgafn. Ychwanegwch yr olew, croen a sudd y lemwn a pherlysiau ffres.
  6. Taenwch gymysgedd y crwst dros wyneb y cig a’i osod mewn popty poeth am 20 munud.
  7. Lleihewch dymheredd y popty i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 a choginio am weddill yr amser coginio a gyfrifwyd. Brasterwch bob hyn a hyn trwy lwyo’r suddion o’r tun dros y cig.
  8. Tynnwch y cig o’r popty, ei osod ar fwrdd torri a gadael iddo orffwys am o leiaf 30 munud cyn ei gerfio. Ysgeintiwch ychydig o halen môr drosto wrth i chi ei gerfio.
  9. Sgimiwch y braster o’r tun rhostio a defnyddiwch y suddion i baratoi grefi blasus.
Share This