facebook-pixel

Darnau llosg brisged Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 4 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.5-2kg darn fflat brisged Cig Eidion Cymru PGI
  • 1 winwnsyn, wedi’i sleisio’n fras
  • Ar gyfer y rhwbiad:
  • 1 llwy de halen
  • 1 llwy de pupur mâl bras
  • 1 llwy de powdr garlleg
  • 1 llwy de paprika
  • 1 llwy de pupur cayenne

Ar gyfer y saws:

  • Can bach o cola
  • 1 jar neu botel fach o saws barbeciw da. (Neu, gwnewch eich saws barbeciw eich hun)

Dull

  1. Tynnwch y brisged allan o’r oergell 45 munud cyn ei goginio i gyrraedd tymheredd yr ystafell.
  2. Cynheswch y popty i 150˚C / 130˚C ffan / Nwy 2.
  3. Cymysgwch y sbeisys gyda’i gilydd ar gyfer y rhwbiad a’i rwbio’n ysgafn i mewn i arwyneb y brisged.
  4. Rhowch y sleisys winwns mewn tun rhostio a gosodwch y brisged ar y top. Ychwanegwch 200ml o ddŵr poeth. Gorchuddiwch yn llac iawn gyda phapur pobi nad yw’n glynu ac yna seliwch â ffoil. Rhowch yn y popty am 2 awr.
  5. Tynnwch y ffoil a’r papur pobi i ffwrdd a pharhau i goginio am tua 2 awr. Dylai’r cig wedyn fod yn dyner ond heb haenu. Os nad yw’n barod, gorchuddiwch a dychwelwch i’r popty.
  6. Gwnewch y saws trwy gymysgu’r cola a’r saws barbeciw gyda’i gilydd, ychwanegwch ychydig o’r sudd coginio.
  7. Pan fydd y brisged wedi’i goginio, tynnwch o’r popty a gadewch iddo oeri ychydig, fel y gallwch ei gyffwrdd.
  8. Cynyddwch dymheredd y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
  9. Torrwch y brisged yn ddarnau bach a rhowch yn ôl yn y tun rhostio, yna arllwyswch ychydig o’r saws drosto, dim ond digon i orchuddio’r cig, a’i gymysgu’n dda.
  10. Rhowch yn y popty am 30 munud nes bod y cig yn grensiog.
  11. Gweinwch gyda colslo crensiog a salad.
Share This