facebook-pixel

Hanner coes Cig Oen Cymru â sglein mêl gyda phannas a gellyg crensiog

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 1 awr 50 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • ½ leg PGI Welsh Lamb (approx. 1.5kg)

For the marinade/glaze:

  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 lwy fwrdd mwstard grawn cyflawn
  • 2 lwy fwrdd mêl rhedegog
  • 2 lemon, dim ond y sudd
  • 3 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân neu eu malu
  • ½ llwy fwrdd rhosmari, wedi’i dorri
  • 1 llwy fwrdd dail teim
  • ½ llwy de pupur du
  • ¼ llwy de halen
  • 3 gellygen gadarn, wedi’u torri’n ddarnau yn eu hyd ar ôl tynnu’r canol
  • 4 panasen, wedi’u plicio a’u torri’n ddarnau yn eu hyd
  • Sbrigiau o rosmari

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4.
  2. Pwyswch y cig oen a chyfrifwch yr amser coginio. Ar gyfer cig canolig, caniatewch 25 munud fesul 500g ynghyd â 25 munud. Er mwyn ei goginio’n dda, caniatewch 30 munud fesul 500g a 30 munud arall.
  3. Tynnwch y cig oen allan o’r oergell a’i roi ar dun rhostio mawr a, gan ddefnyddio cyllell finiog, gwnewch doriadau yn y cig oen.
  4. Gwnewch y marinâd trwy gymysgu’r holl gynhwysion gyda’i gilydd. Arllwyswch tua hanner y marinâd dros y cig oen, rhwbiwch i mewn i’r cig oen a gadewch iddo sefyll am 30 munud ar dymheredd ystafell.
  5. Rhowch y cig oen yn y popty a’i orchuddio’n llac â ffoil (peidiwch â’i selio). (Gweler cam 2 am amseroedd coginio).
  6. Tynnwch y cig oen allan o’r popty 20 munud cyn diwedd yr amser coginio, tynnwch y ffoil i ffwrdd, a chynyddwch dymheredd y popty i 190˚C / 170˚C ffan / Nwy 5 .
  7. Gorchuddiwch y gellyg a’r pannas gyda gweddill y marinâd a’u gwasgaru o amgylch y cig oen yn y tun rhostio, ac ychwanegu ambell sbrigyn o rosmari. Dychwelwch i’r popty am 20 munud.
  8. Tynnwch y cig oen allan a gadewch iddo orffwys. Rhowch y tun rhostio yn ôl yn y popty a’i goginio am 10 munud arall neu nes bod y pannas wedi coginio, yn euraidd ac yn grensiog.
  9. Gweinwch dafelli o’r cig oen rhost gyda’r gellyg a’r pannas a diferwch y sudd o’r tun rhostio drosto.
Share This