facebook-pixel

Asennau pupur a halen Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2 brest Cig Oen Cymru PGI, ar yr asgwrn
  • 1 llwy de halen bras
  • ½ llwy de pupur du bras
  • ½ llwy de grawn pupur Szechuan
  • 2 lwy fwrdd olew
  • 1 tsili coch, wedi’i sleisio’n fân
  • 3 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fân
  • ½ llwy de sinsir, wedi’i sleisio’n fân
  • 3 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n fân
  • 1 llwy fwrdd saws soi

Ar gyfer y marinâd:

  • 1 llwy fwrdd lawn blawd corn
  • 1 llwy fwrdd dŵr
  • 1 llwy de powdr pum sbeis Tsieineaidd
  • 1 llwy de siwgr brown meddal

I weini:

  • Saws tsili melys
  • Hadau sesame
  • Talpiau leim

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 3 .
  2. Coginiwch y brestiau trwy eu gosod mewn hambwrdd popty, ac ychwanegu ½ peint o ddŵr (neu stoc cig oen). Gorchuddiwch gyda ffoil a’u coginio yn y popty am 1.5-2 awr nes bod y cig oen yn frau. (Gallwch ddefnyddio popty araf).
  3. Tynnwch nhw o’r tun a gadewch iddynt oeri cyn eu torri’n asennau unigol.
  4. Rhowch y grawn pupur Szechuan mewn padell fach a’u cynhesu’n ofalus am 1 munud. Gadewch i’r grawn pupur oeri, ac yna eu malu mewn malwr.
  5. Cymysgwch y pupur gyda’r halen.
  6. Gwnewch y marinâd trwy gymysgu’r blawd corn, dŵr, pum sbeis Tsieineaidd a siwgr. Defnyddiwch y cymysgedd i orchuddio’r asennau a’u gadael mewn powlen am awr.
  7. Cynheswch y popty i 210˚C / 190˚C ffan / Nwy 6.
  8. Rhowch yr asennau ar hambwrdd pobi wedi’i iro neu ar bapur pobi nad yw’n glynu, brwsiwch nhw gydag olew a’u rhoi yn y popty am tua 15-20 munud, gan eu troi’n achlysurol. Coginiwch nes eu bod yn grimp.
  9. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y tsili, shibwns, garlleg a sinsir a ffrio am ychydig funudau, yna ychwanegwch y saws soi a’r asennau a’u troi nes bod yr asennau wedi’u gorchuddio. Ysgeintiwch y cymysgedd grawn pupur a halen dros y top.
  10. Gweinwch nhw ar unwaith.
Share This