facebook-pixel

Caserol Nadoligaidd Cig Oen Cymru sbeislyd

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 650g ysgwydd heb asgwrn neu ffiledau gwddf heb asgwrn Cig Oen Cymru PGI, wedi eu torri’n giwbiau
  • 2 winwnsyn coch, wedi eu plicio a’u sleisio
  • 3 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
  • 3cm sinsir ffres, wedi ei ratio
  • 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi ei dorri’n fân
  • 1 llwy de sinamon mâl
  • Pupur a halen
  • 300ml stoc cig oen
  • 300ml gwin poeth (neu stoc ychwanegol)
  • Bouquet garni wedi ei wneud gyda 2 ffon sinamon, sbrigyn o rosmari a chlwstwr o deim
  • 2 goeden anis
  • 100g datys medjool, wedi eu haneru
  • 75g llugaeron sych
  • 100g tomatos hirgrwn, wedi eu torri’n dalpiau
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Rhowch y cig oen, y winwns, y garlleg, y tsili, y sinamon a’r sesnin mewn popty araf neu ddysgl bopty. Cymysgwch y cyfan, cyn ychwanegu’r gwin poeth a’r stoc.
  3. Gwnewch y bouquet garni trwy glymu’r ffyn sinamon a’r perlysiau ynghyd gyda llinyn.
  4. Rhowch y bouquet garni yn y ddysgl bopty gyda’r coed anis. Cymysgwch yn dda. Gorchuddiwch gyda chaead a’i roi yn y ffwrn am 1 awr 30 munud – 2 awr tan fod y cig yn eithaf brau (mewn popty araf: 2 awr ar y gosodiad uchel neu 4 awr ar y gosodiad isel).
  5. Tynnwch y caead ac ychwanegwch y datys, y llugaeron, y tomatos a’r siwgr. Cymysgwch y cyfan yn dda.
  6. Gorchuddiwch gyda’r caead a’i roi’n ôl yn y ffwrn am 45 munud arall (1 awr yn y popty araf).
  7. Gweinwch y cyfan gyda thatws stwnsh hufennog.

Awgrym: Mae hwn yn addas i’w goginio yn y ffwrn neu’r popty araf.

Share This