facebook-pixel

Cig Eidion Cymru wedi brwysio gyda llugaeron a chnau castan

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 3 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1kg stecen Cig Eidion Cymru PGI, wedi brwysio a’i sleisio’n denau
  • 3 llwy fwrdd o olew
  • 2 winwnsyn, wedi eu sleisio’n denau
  • 4 ewin garlleg, wedi eu malu
  • 300g moron, wedi eu torri’n fân
  • Pupur a halen
  • 300ml gwin coch
  • 300ml stoc cig eidion neu ddŵr
  • 1 ddeilen bae
  • 1 llwy fwrdd o ddail teim ffres
  • 300g llugaeron ffres neu wedi rhewi
  • 180g cnau castan wedi eu coginio

Dull

  1. Twymwch y ffwrn i 150°C / 130°C ffan / Nwy 2.
  2. Twymwch 1 llwy fwrdd o olew mewn dysgl caserol a choginiwch y winwns am ryw 5 munud, ychwanegwch y garlleg a’r moron, eu cymysgu, a choginio am 5 munud arall.
  3. Ychwanegwch yr olew sy’n weddill i badell ffrio, rhowch bupur a halen ar y cig eidion a’i frownio ar y ddwy ochr cyn ei ychwanegu i’r caserol.
  4. Crafwch waelod y badell ffrio gyda’r gwin coch, gan gasglu’r holl doddion o’i gwaelod. Tywalltwch dros y cig eidion gyda’r stoc, y ddeilen bae a’r dail teim. Gorchuddiwch a choginiwch yn y ffwrn am 2 awr. Cymysgwch y llugaeron a’r cnau castan i mewn a’i ddychwelyd i’r ffwrn am awr arall nes bod y cig eidion yn frau.
  5. Tynnwch allan o’r ffwrn a’i weini gyda thatws stwnsh, seleriac a llysiau gwyrdd wedi eu stemio.
Share This