facebook-pixel

Coes rhost Cig Oen Cymru gyda pherlysiau, garlleg, a sleisys lemwn a chlementin

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 1 awr 50 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 2kg coes Cig Oen Cymru PGI (ar yr asgwrn)
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 llwy fwrdd oregano sych
  • 3 sbrigyn rhosmari, wedi’u torri’n fân
  • Sbrigiau o deim, y dail wedi’u tynnu a’u torri
  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu
  • Pupur a halen
  • 3 lemwn (croen a sudd un lemwn; sleisiwch y ddau lemwn arall)
  • 2 oren bach neu glementin, wedi’u sleisio
  • Gwasgiad o fêl rhedegog
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n dalpiau
  • 1 bylb garlleg, wedi’i haneru

Dull

  1. Tynnwch y cig oen o’r oergell awr cyn ei goginio fel ei fod ar dymheredd yr ystafell.
  2. Cynheswch y popty i 220˚C / 200˚C ffan / Nwy 7.
  3. Mewn powlen fach, cymysgwch yr olew, oregano, rhosmari, teim, croen y lemwn, 2 lwy fwrdd o sudd lemwn, garlleg a sesnin gyda’i gilydd.
  4. Gan ddefnyddio cyllell finiog, gwnewch doriadau bach i mewn i’r cig oen. Gwasgarwch y darnau nionyn o gwmpas y tun rhostio a gosodwch y cig oen ar y top.
  5. Rhwbiwch y cymysgedd perlysiau ar wyneb y cig oen, ac ychwanegwch y bylb garlleg wedi’i haneru. Rhowch yn y popty am 30 munud.
  6. Gostyngwch y tymheredd i 190˚C / 170˚C ffan / Nwy 5 a brasteru’r cig oen. Coginiwch am 45 munud arall yna tynnwch o’r popty a threfnwch y sleisys lemwn ac oren neu glementin dros ben y cig oen, diferwch â sudd o’r tun a’r mêl.
  7. Rhowch yn ôl yn y popty i goginio am 35 munud arall ar gyfer cig oen wedi’i goginio’n ganolig, neu coginiwch at eich dant.
  8. Gadewch i’r cig oen orffwys am o leiaf 30 munud cyn ei dorri.
  9. Gweinwch gyda thatws rhost crensiog, llysiau a saws mintys.
Share This