facebook-pixel

Coes Cig Oen Cymru mwstard ffrwythau gyda llysiau’r gaeaf wedi’u rhostio yn y popty gan Francesco Mazzei

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 1 awr 25 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 3kg coes Cig Oen Cymru PGI, yr esgyrn wedi’u tynnu mewn dull pili pala
  • 100g briwgig Cig Oen Cymru PGI (mân iawn)
  • 60g mwstard ffrwythau (neu fricyll sych, resins a.y.y.b.)
  • 20g caws Grana Padano, wedi’i ratio
  • 1 melynwy
  • Pupur a halen
  • ½ ewin garlleg, wedi’i ratio
  • Llond llaw o gnau pistasio, heb y plisg
  • 1-2 llwy fwrdd olew olewydd ifanc iawn
  • 3 sbrigyn o rosmari
  • 4 ewin garlleg, heb eu pilio
  • 30g blawd plaen
  • 1l stoc cyw iâr

Ar gyfer y llysiau:

  • 1 swedsen
  • 1 fresychen goch
  • 1 gwrd
  • 1 bylb ffenigl
  • 10 sbrowt
  • 1 pupryn gwrydd
  • 1 pupryn coch
  • 1 pupryn melyn
  • 50ml olew olewydd ifanc iawn
  • 20g menyn

Dull

  1. Cynheswch y popty i 185˚C / 165˚C ffan / Nwy 4.
  2. Trimiwch unrhyw fraster ychwanegol i ffwrdd o du mewn y goes. Gwnewch holltau yn y cig i’w agor allan ychydig yn fwy (ac i helpu’r blasau i’w trwytho i’r cig). Rhowch o’r neilltu.
  3. Mewn powlen, cymysgwch y briwgig, melynwy, caws, halen, pupur, y garlleg wedi’i ratio a’r cnau pistasio a rhowch o’r neilltu.
  4. Sesnwch tu mewn y goes cig oen gyda halen a phupur. Tynnwch ddail oddi wrth un sbrigyn o rosmari a’u gwasgaru’n gynnil dros y cig oen.
  5. Torrwch y mwstard ffrwythau’n ddarnau llai (e.e. chwarterwch y gellyg, y ffigysen a.y.y.b. Os ydych chi’n defnyddio ceirios, gadewch y rhain yn gyflawn).
  6. Taenwch y stwffin briwgig ar du mewn y goes. Trefnwch y darnau o fwstard ffrwythau yn gyfartal ar ben y stwffin. Rholiwch y cig oen i fyny a’i glymu â llinyn cigydd.
  7. Rhowch 1-2 llwy fwrdd o olew olewydd ifanc iawn i mewn i dun rhostio. Ychwanegwch y sbrigynnau o rosmari sy’n weddill a’r ewinau garlleg. Rhowch y cig oen ar ben a’i bobi am ryw 1 awr i 1 awr 15 munud.
  8. Yn y cyfamser, griliwch y pupurau a phan fyddan nhw’n barod, tynnwch y croen a’r hadau. Torrwch nhw’n ddarnau.
  9. Blansiwch y sbrowts mewn dŵr berwedig hallt a’u hoeri mewn dŵr iâ.
  10. Torrwch y llysiau sy’n weddill yn dalpiau, sesnwch gyda halen a phupur a’r olew olewydd ifanc iawn. Pobwch am ryw 30-40 munud.
  11. Tynnwch y cig oen allan o’r popty a’i drosglwyddo i blât. Gadewch iddo orffwys.
  12. Ychwanegwch y blawd i’r tun rhostio, ei gymysgu â’r sudd o’r cig oen ac ychwanegu’r stoc cyw iâr. Rhowch y cymysgedd dros wres canolig a’i goginio nes ei fod yn tewhau. Pasiwch trwy ridyll a’i gadw’n boeth.
  13. Mewn padell, toddwch y menyn ac ychwanegwch y sbrowts, addaswch gyda halen os oes angen, a’i dro-ffrio am gwpl o funudau.
  14. Ychwanegwch y pupurau at y llysiau wedi’u rhostio a’u gadael yn y popty nes eu bod yn gynnes.
  15. Sleisiwch y cig oen a’i weini wrth ymyl y llysiau wedi’u rhostio a’r sbrowts, ac arllwyswch y saws cynnes ar ei ben.
Share This