facebook-pixel

Burrito Cig Eidion Cymru a phwdin Efrog

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 1

Bydd angen

Cytew Pwdin Efrog:

  • 2 ŵy mawr
  • 150ml o laeth
  • 65g o flawd
  • Halen a phupur
  • Olew i goginio
  • Os dymunwch, gallwch ddefnyddio cymysgedd mewn pecyn a’i baratoi yn ôl y cyfarwyddiadau

Dull

  1. I wneud y brisket: dilynwch ein rysáit Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf
  2. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
  3. Gwnewch y cytew – rhowch y blawd mewn powlen fawr, gwnewch bant yn y canol ac ychwanegwch yr wyau. Cymysgwch yn ysgafn, ychwanegwch y llaeth yn raddol a’r halen a’r pupur. Cymysgwch yn dda a’i guro er mwyn cynnwys aer.
  4. Gadewch i’r gymysgedd sefyll yn yr oergell am 20 munud.
  5. I wneud y burrito, defnyddiwch dun crwn 22cm. Arllwyswch ychydig o olew i’r tun a chynheswch yn y popty nes mae’n boeth iawn.
  6. Arllwyswch ddigon o gytew i’r tun i wneud haen rhyw 5cm o drwch. Gadewch iddo goginio am 15-20 munud.
  7. Pan fydd wedi coginio, symudwch i fwrdd torri a dechreuwch greu’r burrito. Taenwch ychydig o fayonnaise rhuddygl poeth ar y pwdin Efrog cyn ychwanegu’r cig eidion a’r nionod wedi ffrio. Ychwanegwch ychydig o grefi os dymunwch.
  8. Rholiwch yn ofalus i greu burrito.
Share This