Cebabs Cig Oen Cymru gyda phinafal, soi a tsili, gyda salad nwdls a llysiau’r gwanwyn

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 225g stêcs ffolen neu goes Cig Oen Cymru PGI
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n ddarnau bach

Ar gyfer y sglein:

  • 6 llwy fwrdd sudd pinafal
  • 3 llwy fwrdd jam bricyll neu binafal
  • 1 tsili coch, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd saws soi

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1267 KJ
  • Calorïau: 301 kcals
  • Braster: 9.2 g
  • Sy’n dirlenwi: 3.9 g
  • Halen: 0.25 g
  • Haearn: 2.23 mg

Dull

  1. Cymerwch y stêcs coes neu ffolen cig oen a’u torri’n giwbiau bychan. Gwthiwch sgiwerau pren hir drwy 2-3 darn o gig a winwns (y sgiwerau wedi’u mwydo mewn dŵr o flaen llaw i’w hatal rhag llosgi).
  2. Gwnewch y sglein: cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y sglein mewn sosban fechan. Dewch â’r cymysgedd i’r berw a’i fudferwi heb gaead am 5 munud. Brwsiwch ddigonedd o sglein dros y cebabs.
  3. Rhowch y sgiwerau o dan gril sydd wedi’i dwymo’n barod a’u coginio am 8-10 munud.
  4. Rhowch fwy o’r sglein ar y cebabs.
  5. Berwch unrhyw sglein sydd ar ôl yn drwyadl a’i weini wedi’i daenu dros y cebabs.
  6. Gweinwch gyda salad nwdls a llysiau’r gwanwyn (pys, pys melys, asbaragws). Gallwch dorri pinafal ffres yn giwbiau a’u grilio hefyd – mae’n flasus tu hwnt!
Share This