facebook-pixel

Brechdan i’r Brenin 2.

Mae’n fwy, mae’n well, ac mae wedi cyrraedd.

Mae cystadleuaeth stêc hynod boblogaidd y llynedd yn ei hôl ynghyd â’r cogydd gwych a’r seren deledu Chris ‘Brenin y Barbeciw’ Roberts fel beirniad.

Mae’n well ac yn fwy blasus nag erioed!

Gyda mwy o gategorïau a mwy o wobrau, ynghyd â’r wobr fawreddog o Chris ei hun yn coginio gwledd Cig Eidion Cymru i chi a’r teulu, dyma’r gystadleuaeth fwyaf blasus y byddwch chi’n rhoi cynnig arni eleni! A chan fod cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio, mae hwn yn gyfle gwych i fwynhau bwyd anhygoel tra hefyd yn cefnogi ein cigyddion a’n ffermwyr lleol.

Ydych chi’n meddwl bod gennych chi rysáit brechdan stêc anhygoel? A allai eich cais fachu sylw a pharch y cogydd cig campus?

Angen ysbrydoliaeth? Gwyliwch Chris yn gwneud ei frechdan stêc ei hun gyda chynhwysion Cymreig gwych fan hyn.

Mwy o gategorïau, mwy o wobrau!

Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth y llynedd, rydym ni wedi ehangu ar y syniad gwreiddiol, felly eleni rydym ni’n cyflwyno mwy o gategorïau ynghyd â’r wobr fawreddog o Chris ei hun yn coginio gwledd Cig Eidion Cymru i chi a’r teulu. Cymerwch gip ar yr hyn y gallech chi ei ENNILL!

 

  • Prif enillydd: Chris ‘Brenin y Barbeciw’ Roberts yn coginio gwledd yn eich cartref + barbeciw / Pwll Tân
  • Ymgais gan blentyn (hyd at 16 oed ac o dan oruchwyliaeth): gwerth £150 o offer coginio
  • Ymgais Barbeciw: Taleb £150 Hamper Clwb Cigyddion
  • Ymgais Anarferol: Taleb £150 Hamper Clwb Cigyddion
  • Defnydd gorau o gynnyrch Cymreig: Hamper bwyd a diod o Gymru
  • Ymgais orau ar fideo: Taleb £150 Hamper Clwb Cigyddion

Ewch amdani…

Felly, os yw hynna wedi codi chwant bwyd arnoch chi, a’ch bod chi wedi darllen y Telerau ac Amodau, dyma sut i gystadlu mewn pedwar cam hawdd:

Dewiswch eich stêc.

Ewch draw at eich cigydd neu archfarchnad leol, naill ai yn y siop neu ar-lein, a phrynwch eich stêc(s) Cig Eidion Cymreig PGI.

Ewch ati i goginio a byddwch yn greadigol.

Coginiwch eich stêc at eich dant a’i gweini yn eich brechdan unigryw – defnyddiwch eich dychymyg – does dim rhaid ei gwneud â bara hyd yn oed!

Rhannwch eich creadigaeth gyda'r byd!

Rhowch eich brechdan ar blat a phostio delwedd neu fideo ohoni, ynghyd â’r rysáit holl bwysig ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BrechdanIrBrenin yn ogystal â’n tagio ni yn eich neges:

          

Ac… ymlaciwch.

Rydych chi wedi gwneud eich rhan, tro Chris yw hi nawr. Unwaith y bydd y cynigion wedi cyrraedd, bydd Chris yn dewis y ceisiadau gorau a’r prif enillydd.

Angen ysbrydoliaeth?

Cawsom ymateb gwych i’r gystadleuaeth llynedd ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld beth fydd gennych i’w gynnig y tro hwn! O’r anarferol i’r aruthrol, rydyn yn croesawu pob math o gynigion, ac mae yna lu o wobrau ar gael.

I’r rhai sydd â diddordeb mewn coginio gyda blas mwy ecsotig, darllenwch ein blog am sut mae pobl yn gwneud eu brechdanau stêc mewn gwahanol rannau o’r byd. A chymerwch olwg yma ar ryseitiau’r tri wnaeth gyrraedd y rownd derfynol llynedd…

Share This