facebook-pixel

Rendang Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 800g o Gig Eidion Cymru PGI i’w stiwio, wedi’i ddeisio’n ddarnau mawr
  • 1 llwy fwrdd o olew ar gyfer ffrio
  • 4 deilen leim kaffir (sych)
  • 2 coeden anis
  • 2 ffon o sinamon
  • 8 clof
  • 1 tun o laeth cnau coco
  • 200ml o ddŵr
  • Sudd un lemwn
  • 1 llwy fwrdd o siwgr brown tywyll
  • 4 llwy fwrdd o gnau coco wedi’u

Ar gyfer y past Rendang:

  • 1 nionyn, wedi’i dorri’n fras
  • 2 tsili coch mawr, hadau wedi’u tynnu a’u torri
  • 6 ewin garlleg, wedi’u torri
  • Darn 2.5 cm sinsir ffres, wedi’i dorri
  • ½ llwy de o bowdr sinsir
  • 1 llwy fwrdd o bowdr coriander
  • 1 llwy de o bowdr cumin
  • 1 llwy de o bupur du
  • ½ llwy de o halen
  • 1 llwy de o bast lemongrass
  • Ychydig o ddŵr

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1519 KJ
  • Calorïau: 360 kcals
  • Braster: 14 g
  • Sy’n dirlenwi: 5.9 g
  • Halen: 1.4 g
  • Haearn: 6.2 mg
  • Sinc: 12 mg
  • Protein: 48 g
  • Ffeibr: 2.3 g
  • Carbohydradau: 14 g
  • Sy’n siwgro: 12 g

Dull

Gallwch brynu pâst Rendang parod, neu roi cynnig ar wneud eich pâst eich hun. Mae’n hawdd iawn i’w wneud, a bydd gennych y rhan fwyaf o’r cynhwysion yn eich cwpwrdd storio yn barod!

 

  1. Gwnewch y pâst trwy roi’r holl gynhwysion mewn prosesydd bwyd a chymysgu’r cyfan i greu pâst llyfn.
  2. Tostiwch y cnau coco trwy eu gosod mewn padell ffrio sych a’u cynhesu, gan eu troi’n ddi-baid hyd nes y byddant yn troi’n lliw brown, euraid.
  3. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr neu ddysgl caserol. Ychwanegwch y coed anis, y ffyn sinamon a’r clofau a’u gadael i ffrio am funud ar wres canolig.
  4. Ychwanegwch y pâst a’r dail leim kaffirat y badell a’u troi am rai munudau.
  5. Ychwanegwch y cig eidion, y llaeth cnau coco a’r dŵr at y cymysgedd a dewch ag ef i’r berw, cyn gostwng y gwres a’i goginio am 1 awr a hanner i 2 awr.
  6. Ychwanegwch y siwgr, y sudd lemwn a 3 llwy fwrdd o’r cnau coco wedi’u tostio. Cymysgwch y cyfan cyn ei orchuddio â chaead a’i goginio am tua 30 munud. Ewch ati i’w droi bob hyn a hyn, a hynny hyd nes y bydd y cig yn dyner a’r pâst yn gymharol sych.
  7. Gweinir gyda phinsiad o’r cnau coco sy’n weddill. Pryd delfrydol i’w weini gyda reis wedi’i goginio, a salad tomato a choriander.
Share This