facebook-pixel

Koftas Harissa Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • 1 llwy fwrdd past harissa
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 5 tomato heulsych, wedi’u torri
  • Pupur a halen
  • Sgiwerau bambŵ, wedi’u socian mewn dŵr oer

Ar gyfer y salad Groegaidd:

  • 1 tomato mawr, wedi’i dorri’n giwbiau
  • ¼ ciwcymbr, wedi’i dorri’n giwbiau
  • 4 tomato heulsych, wedi’u torri
  • Pinsiad o oregano sych
  • 50g caws ffeta, wedi’i falu
  • Pupur a halen
  • 2 lwy fwrdd persli ffres, wedi’i dorri’n fras

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1412 KJ
  • Calorïau: 340 kcals
  • Braster: 24.1 g
  • Sy’n dirlenwi: 3 g
  • Halen: 2.1 g
  • Haearn: 3.4 mg

Dull

  1. Yn gyntaf rhowch y briwgig mewn powlen fawr ac ychwanegwch y past harissa, y garlleg, y tomatos a’r pupur a halen.
  2. Yna rhannwch y gymysgedd yn wyth darn a’u mowldio’n siapiau selsig.
  3. Rhowch y sgiwerau drwy’r siapau selsig a’u gwasgu’n ysgafn i’w cadw’n sownd.
  4. Rhowch y koftas sydd newydd gael eu siapio ar blat, eu gorchuddio a’u gadael i oeri yn yr oergell am 15-20 munud.
  5. Nawr rhagdwymwch y gril, tynnwch y koftas o’r oergell, a’u coginio dan y gril poeth. Coginiwch am ryw 12 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac wedi’u coginio’n drylwyr.
  6. Wrth i’r koftas cig oen goginio; cymysgwch y tomato mawr, y ciwcymbr, y tomatos heulsych, yr oregano sych, y caws ffeta a’r persli sych – ac ychwanegwch fymryn o bupur a halen.
  7. Gweinwch y koftas blasus gyda salad Groegaidd a bara pitta wedi’i grasu.
Share This