facebook-pixel

Tsili crenshlyd Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 300g stêc rwmp neu syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI, wedi ei dorri’n stribedi eithaf trwchus
  • 3 llwy fwrdd olew
  • 4 llwy fwrdd blawd corn
  • 1 llwy de pum sbeis Tsieinïaidd
  • ¼ llwy de powdr tsili
  • ½ llwy de pupur du
  • 75g mange-tout neu bys melys, wedi eu sleisio
  • 1 foronen, wedi ei thorri’n fatsys
  • Gwraidd sinsir (darn 2cm), wedi ei dorri’n fatsys
  • ½ llwy fwrdd olew sesame

Ar gyfer y saws:

  • 1 oren bach, y croen a’r sudd
  • 2 lwy fwrdd saws tsili melys
  • 1 llwy fwrdd saws soi â llai o halen
  • 1 llwy fwrdd saws coch
  • ½ llwy de haenau tsili neu ½ tsili coch, wedi ei dorri’n fân

I weini:

  • Hadau sesame
  • Reis wedi ei ferwi

Dull

  1. Mewn powlen fechan, cymysgwch holl gynhwysion y saws.
  2. Mewn powlen arall, cymysgwch y blawd corn, y pum sbeis Tsieinïaidd, y pupur a’r powdr tsili. Arllwyswch y gymysgedd ar blat a’i defnyddio i orchuddio’r sleisys o gig eidion.
  3. Mewn padell fechan, cynheswch yr olew sesame a ffriwch y llysiau’n ysgafn am funud neu ddau, gan sicrhau eu bod yn grimp braf.
  4. Cynheswch 3 llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio. Rhowch stribed o gig eidion yn yr olew poeth i weld a yw’n ddigon poeth. Pan fo’n barod, ffriwch y stribedi cig eidion tan eu bod yn grimp braf (Coginiwch y stribedi mewn dau swp i sicrhau eu bod yn grimp). Tynnwch nhw allan gyda llwy dyllog a’u rhoi ar bapur cegin. Gwaredwch yr olew coginio.
  5. Pan rydych chi’n barod i weini, rhowch y stribedi o gig eidion yn ôl yn y badell, ychwanegu cynhwysion y saws a chynhesu popeth dros wres uchel am funud.
  6. Gweinwch y cig eidion gyda reis berw a’r llysiau crenshlyd, cyn rhoi hadau sesame ar ben y cyfan.
Share This