facebook-pixel

Cig Oen Cymru gyda sinsir a shibwns wedi’i dro-ffrio

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2 coes neu stêc ffolen o Gig Oen Cymru PGI
  • 1 llwy de o flawd corn
  • Pinsied o bupur du
  • 3 llwy fwrdd o saws soi â llai o halen
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • Darn 5cm o sinsir gwraidd ffres, wedi’i blicio a’i sleisio’n denau
  • 3 clof garlleg, wedi’u plicio a’u sleisio’n denau
  • 6 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n fân
  • 1 moronen fawr, wedi’i phlicio a’i thorri’n stribedi hir neu’n gylchoedd tenau
  • 1 pecyn o pys siwgrsnap
  • 75g flodigynnau o broccoli
  • 2 llwy fwrdd o sudd oren
  • Dŵr, os oes angen
  • 300g o nwdls neu reis wedi’i goginio, i’w weini

Dull

  1. Sleisiwch y cig oen yn denau iawn a’i gaenu yn y blawd corn, ychwanegwch bupur du ac un llwy fwrdd o saws soi. Gorchuddiwch a’i adael i sefyll wrth ichi baratoi’r llysiau.
  2. Cynheswch yr olew mewn padell ffrïo, ychwanegwch y cig oen a’i goginio dros wres uchel am tua 5 munud nes ei fod wedi brownio’n braf, tynnwch y cig allan o’r badell a’i roi i’r neilltu.
  3. Yn yr un badell ychwanegwch y sinsir a’r garlleg a’u troi am funud (ychwanegwch ddiferyn o olew os oes angen) ac yna ychwanegwch weddill y llysiau, a’u troi dros wres uchel am 4 munud.
  4. Rhowch y cig oen yn ôl yn y badell a’i droi’n dda. Ychwanegwch y sudd oren a gweddill y saws soi, ychwanegwch ychydig o ddŵr at y saws os oes angen. Mudferwch am 1-2 munud.
  5. Gweinwch ar wely o nwdls neu reis poeth.
Share This