facebook-pixel

Macaroni a chaws gyda Chig Eidion Cymru wedi’i dynnu

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 100-150g o Gig Eidion Cymru PGI dros ben wedi’i dynnu a’i ddarnio
  • 35g o facaroni neu basta troellog
  • Mymryn o olew
  • 50g o fenyn
  • 3 lwy fwrdd o flawd plaen
  • 500ml o laeth
  • ½ llwy de o bowdr mwstard
  • Pupur a halen
  • 250g o gaws cheddar aeddfed, wedi’i gratio
  • 50g o friwsion bara
  • 50g o gaws parmesanwedi’i gratio
  • 1 llwy fwrdd o fenyn, wedi’i doddi

Dull

  1. I wneud y brisket: dilynwch ein rysáit Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf
  2. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4, ac irwch ddysgl bobi yn ysgafn.
  3. Coginiwch y pasta mewn dŵr berw, gan ei dynnu oddi ar y gwres cyn iddo fynd yn rhy feddal. Draeniwch y dŵr ac ychwanegu mymryn o olew, gan ei gymysgu.

I wneud y saws caws:

  1. Toddwch y menyn ac ychwanegu’r blawd, gan ei goginio am funud. Yn raddol, ychwanegwch y llaeth gan gymysgu’r cyfan yn dda er mwyn osgoi unrhyw lympiau.
  2. Dewch â’r cymysgedd i’r berw ac ychwanegwch y pupur a halen a’r powdr mwstard, gan ei adael i fudferwi am 1 funud.
  3. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres ac ychwanegu tua hanner o’r caws, gan gymysgu’n dda.
  4. Ychwanegwch y pasta wedi’i goginio a’r cig eidion, gan gymysgu’n dda.
  5. Rhowch hanner y cymysgedd yn y ddysgl, gan roi gweddill y caws cheddar ar ei ben, cyn ychwanegu’r cymysgedd pasta a fydd ar ôl.
  6. Mewn powlen fechan, cymysgwch y briwsion bara, y caws parmesan, a’r menyn wedi’i doddi ynghyd, gan wasgaru’r cymysgedd dros y pasta.
  7. Pobwch yn y popty am tua 25 munud tan y bydd yn chwilboeth ac yn euraid.
Share This