facebook-pixel

Plât rhannu barbacoa Cig Eidion Cymru

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 4 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.2 – 1.5kg brisged neu balfais Cig Eidion Cymru PGI, yn gyfan
  • ½ llwy de halen
  • ½ llwy de pupur ffres mâl
  • Olew i ffrio

Ar gyfer y saws:

  • 2 lwy fwrdd past chipotle
  • 500ml stoc cig eidion neu gwrw tywyll
  • 100ml finegr seidr afal
  • 2 leim, dim ond y sudd
  • 6 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u malu
  • 1½ llwy fwrdd cwmin mâl
  • 2 lwy de oregano sych
  • ½ llwy de clofs mâl

Ar gyfer y dip leim siarp:

  • 150ml crème fraiche neu hufen sur
  • 1 leim, sudd a chroen
  • 2 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 llwy fwrdd saws tsili melys

I weini:

  • Coriander wedi’i dorri
  • Bresych coch wedi’u piclo
  • Cwpanau letys bach
  • Tacos neu tortillas

Dull

  1. Rhowch holl gynhwysion y saws mewn powlen fawr a chwisgiwch yn ysgafn i gymysgu’n dda.
  2. Rhowch bupur a halen ar y cig eidion.
  3. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a, dros wres uchel, browniwch y cig yn dda ar bob arwyneb.
  4. Trosglwyddwch y cig i’r popty araf neu mewn dysgl gaserol ddofn ac arllwyswch gynhwysion y saws dros y cig.
  5. Coginiwch ar dymheredd isel yn y popty araf am 6-8 awr, neu 4 awr yn y popty ar 150˚C / 130˚C ffan / Nwy 2, nes bod y cig yn dyner iawn ac yn rhwygo’n hawdd.
  6. Tynnwch y cig allan o’r saws a, gan ddefnyddio ffyrc, rhwygwch y cig. Ychwanegwch rywfaint o’r saws neu’r cyfan at y cig wedi’i dorri’n fân a’i ddefnyddio i lenwi’r tacos neu’r cwpanau letys. Rhowch y dip leim siarp, bresych coch wedi’u piclo a’r coriander wedi’i dorri ar ei ben.
Share This