facebook-pixel

Pario gwinoedd gwych gyda Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Meh 8, 2021

Codwch wydraid’ i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru

Mae Wythnos Gwin Cymru, ffefryn blynyddol yn y calendr coginio, yn cael ei chynnal eleni ar 4 – 13 Mehefin.

Gyda nifer o weithgareddau ac erthyglau, mae Wythnos Gwin Cymru yn rhoi cyfle i bawb ddysgu mwy am winoedd a gwneuthurwyr gwin Cymru yn y diwydiant yma sy’n tyfu’n gyflym. O newydd-ddyfodiaid sy’n sefydlu eu gwinwydd cyntaf i’r rhai y mae eu gwinllannoedd wedi gwreiddio’n gadarn, mae Cymru’n dod yn enwog am ei gwinoedd boutique.

Fel ein Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI unigryw, gellir hefyd warchod gwin sydd wedi’i gynhyrchu a’i baratoi mewn un ardal benodol o dan y Cynllun Enw Bwyd a Warchodir gan yr Undeb Ewropeaidd. Fe welwch winoedd o dan y cynllun hwn wedi’u labelu fel Welsh Quality Wine neu Welsh Regional Wine.

Gyda dros 20 o fathau o rawnwin yn cael eu tyfu yng Nghymru gan gynnwys Rondo, Solaris a Seyval Blanc, mae gwneuthurwyr gwin yn cynhyrchu gwinoedd coch, gwyn a rhosliw gan ddefnyddio mathau o rawnwin sy’n gallu tyfu mewn hinsawdd oerach. Mae ein Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru hefyd yn ffynnu yn yr hinsawdd hon – efallai mai dyna pam fod y gwinoedd yn paru cystal â nhw – mae’r cyfan yn y terroir!

Felly i helpu dathlu Wythnos Gwin Cymru, dyma rai awgrymiadau ar sut i baru gwin gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Rydym ni wedi canolbwyntio ar win coch, gan ei fod yn cael ei ystyried fel y gwin a ffefrir i’w yfed gyda chig coch. Rydym ni hefyd wedi dewis bwnsiad o ryseitiau hyfryd i chi roi cynnig arnyn nhw. Iechyd da!

 

Hyfryd gyda chig oen

Gall cig oen dderbyn llawer o flasau fel sbeisys, perlysiau a ffrwythau. Mae gwinoedd hyfryd, ffrwythaidd fel Pinot Noir yn mynd yn dda gyda choes rost o gig oen ac mae’r un mor flasus â noisettes neu rag cig oen. Ar gyfer cig oen rhost, mae gwinoedd coch cadarn yn dda, yn enwedig pan fyddan nhw’n cael eu gweini â grefi coeth. Gellir gweini cyri cig oen (nad yw’n rhy sbeislyd) gyda gwin coch ffrwythaidd, tra gall tagine gymryd gwin coch cryf.

Y peth gwych am dymor yr haf yw y gallwn ni wneud y gorau o gig oen sy’n cael ei goginio ar y barbeciw. Os yw eich marinadau neu brydau ochr yn sbeislyd, mae’n well mynd am win coch mwy ffrwythaidd, tra byddai gwin coch mwy asidig, fel Chianti, yn mynd yn dda gyda phryd â pherlysiau/lemon.

Tikka masala Cig Oen Cymru

Tagine Marrakech Cig Oen Cymru gyda bricyll

 

 

 

 

 

 

Ar ei orau gyda chig eidion

Ystyrir yn gyffredinol mai po dewaf y darn o gig eidion, y mwyaf pwerus a chyfoethog y gwin sy’n mynd gydag ef. Mae hyn oherwydd y cynnwys braster. Tra bod stêc ffiled heb lawer o fraster ar ei phen ei hun yn mynd yn dda iawn gyda Pinot Noir ysgafn, os ychwanegir saws ag iddo sail o fraster ati, yna gall gymryd gwin cryfach.

Mae cig eidion rhost yn mynd yn dda gyda Cabernet Sauvignon, ac mae cig eidion sy’n cael ei weini mewn sawsiau gwin coeth yn dda gyda gwinoedd cadarn fel Malbec neu Bordeaux. Mae brisged a stiwiau wedi’u coginio’n araf yn mynd yn dda gyda gwinoedd coch cryf, ychydig yn ffrwythaidd.

Cig Eidion Cymru ac iddo grwst perlysiau

Brisged Cig Eidion Cymru araf mewn saws cyfoethog a sticlyd

 

 

 

 

 

 

 

Am fwy o syniadau gwych ar beth i baru’ch Cig Eidion Cymreig gyda ewch i’n blog Parau perffaith Cig Eidion Cymru

Share This