facebook-pixel

Cig Oen Cymru gyda saws bara lawr a pherlysiau

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2 rag Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n hanner (3-4 asgwrn y person)
  • 1 llond llaw fawr mintys ffres
  • 1 llond llaw fawr persli ffres
  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • 1 llwy bwdin caprau bach
  • 6 cornichon
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 lemon (croen 2 lemon a sudd 1 lemwn)
  • 1 llwy bwdin Bara Lawr Cymreig (PDO)
  • 4 llwy fwrdd briwsion bara
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 15g menyn

Dull

Diolch i Bwyd a Diod Cymru am y rysait.

 

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
  2. Crafwch y braster ar y cig oen a’i sesno’n dda. Seriwch y cig oen mewn padell boeth wrthglud nes ei fod yn euraid a’i roi yn y ffwrn am 15 Tynnwch yr oen allan o’r ffwrn a gadewch iddo orffwys am 5 munud.
  3. Torrwch y mintys, y persli, y garlleg a’r cornichons yn fân a’u rhoi mewn powlen. Ychwanegwch yr olew olewydd, croen 1 lemon, y sudd lemon a’r bara lawr a’i droi. Ychwanegwch bupur a halen at eich dant.
  4. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y menyn a’i adael i doddi cyn ychwanegu’r briwsion Taflwch y briwsion bara yn y menyn a’r olew. Coginiwch dros wres canolig nes eu bod yn grimp ac yn euraid. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegwch y croen sy’n weddill (1 lemwn).
  5. Rhannwch y cytledi a’u gweini gyda’r saws dipio a’r briwsion bara lemwn.
Share This