facebook-pixel

Siancod kleftiko Cig Oen Cymru

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 x siancen Cig Oen Cymru PGI
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • Pupur a halen
  • Sudd 2 lemon
  • 6 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 bylb garlleg, wedi’i haneru
  • 4 deilen llawryf
  • 1 llwy fwrdd oregano sych
  • Sbrigau o deim
  • Sbrigau o rosmari
  • 600g tatws cwyraidd, wedi’u plicio a’u torri’n dalpiau
  • 4 tomato mawr, wedi’u torri’n dalpiau trwchus
  • 1 winwnsyn mawr coch, wedi’i sleisio
  • 200g caws ffeta, wedi’i falu
  • 100ml gwin gwyn sych

I’w weini:

  • Perlysiau ffres wedi’u malu

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 190˚C / 170˚C ffan / Nwy 5.
  2. Cynheswch 1 llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio, rhowch y siancod yn y badell a’u sesno. Seriwch y siancod yn gyflym, gan eu brownio drostynt.
  3. Mewn hambwrdd popty neu ddysgl gaserol ddofn, rhowch yr olew sy’n weddill, y sudd lemwn, garlleg, dail llawryf, oregano, teim, rhosmari, tatws, tomatos, gwin a hanner y caws ffeta. Trowch yn dda. Rhowch y garlleg wedi’i haneru yn yr hambwrdd.
  4. Rhowch y siancod cig oen ar ei ben a’i orchuddio â ffoil.
  5. Coginiwch am oddeutu 2 awr – 2 awr 30 munud, yn dibynnu ar faint y siancod.
  6. Tynnwch y ffoil a’i roi yn ôl yn y popty am 30 munud arall, gan frasteru’r siancod gyda’r sudd.
  7. Cyn ei weini, rhowch y caws ffeta a’r perlysiau wedi’u torri ar ei ben. Gwasgwch y bylb garlleg i mewn i’r sudd.
  8. Gweinwch gyda bara crystiog i sugno’r sudd.
Share This