facebook-pixel

Gwneud y gorau o amgylchedd heriol

Awst 7, 2023

O dan yr awyr dywyll, wlyb, gorwedd tir eang gyda bryniau tonnog, yn frith o goed, a darnau o goetir hyd at y gorwel. Fil o droedfeddi uwch lefel y môr, gallech feddwl eich bod ar ben y byd, wel Ceredigion, canolbarth Cymru, o leiaf.

Mae ucheldiroedd y canolbarth yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, yn debyg iawn i’r rhan fwyaf o Gymru, ac ymylol yw’r tir. Fodd bynnag, mae da byw yn ffynnu ar y bryniau hyn. Ar ben hynny, dyma lle mae Emily Jones, ochr yn ochr â’i rhieni Peter a Gill, yn defnyddio arbenigedd a drosglwyddwyd gan genedlaethau o dreftadaeth ffermio i gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus.

Mae Fferm Garnwen, ffermdy llechen a charreg ganrifoedd oed gyda nifer o adeiladau allanol a waliau cerrig sychion traddodiadol ym Mhenuwch, tua saith milltir o’r dref agosaf, Tregaron, ac 17 milltir o dref prifysgol Aberystwyth.

Mae’r fferm 150 erw yn uned bîff a defaid sy’n cynnwys diadell fasnachol o ddefaid EasyCare a Mynydd De Cymru, ynghyd â defaid pedigri North Country Park Cheviots, North Country Hill Cheviots a Charmoise Hill. O ran cig eidion, mae’r fuches yn cynnwys bridiau croes sefydlogi, Eidion Byrgorn pedigri a gwartheg Coch Moel.

Er ei bod ychydig yn ddiarffordd, ac nad oes llawer o bobl yn mentro yno, mae fferm deuluol Emily wedi bod yma ers cenedlaethau.

Wrth siarad am ei gyrfa ffermio, dywedodd Emily, ffermwraig pedwaredd genhedlaeth,

“Cefais fy ngeni i ffermio, felly cefais flas arno yn ifanc iawn. Cefais fy magu yn y diwydiant. Rydw i wrth fy modd.

 

Rydw i wrth fy modd gyda’r ffaith eich bod chi yno ar bob cam o’r broses – o’r anifeiliaid yn cael eu geni, dod â bywyd newydd i’r byd, a’u gweld yn symud ymlaen i ffermydd eraill.”

Mae ymdeimlad cryf o gymuned yma. Efallai bod fferm Emily yn anghysbell, ond mae help llaw bob amser wrth law.

“Y peth gorau am ffermio yw eich bod chi’n teimlo’n rhan o gymuned glos. Os oes angen help gydag unrhyw beth, mae digon o gymorth i’w gael. Fel ffermwyr, gallwn drafod ein pryderon yn gwbl agored, er enghraifft, yn y mart. Yn y bôn, rydyn ni fel teulu – rydyn ni’n profi’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau gyda’n gilydd.”

Mae ffermio cynaliadwy’n bwysig i Emily, gyda chyn lleied o ddefnydd â phosibl o wrtaith a chynnwys gwndwn glaswellt amrywiol.

“Rydym yn gwneud pob ymdrech i fynd yn ôl i’r hen ddyddiau – at draddodiadau ffermio hŷn. Ond rydym hefyd yn edrych ymlaen ac yn gwneud ein rhan i helpu’r amgylchedd, fel cynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal a ffermio mewn cytgord â natur.

 

Mae hyn wedi cynnwys plannu gwndwn llysieuol, sy’n cynnwys meillion, sicori a llyriaid. Mae gan bob un o’r rhain ddefnyddiau naturiol a byddant yn ein helpu i wella iechyd y pridd, a chynhyrchiant ar y fferm, gan wella ein hallyriadau carbon net.

 

Mae hyn wedi bod yn beth cymharol newydd i ni yma yn Garnwen, ond rydym yn ymwybodol o effaith newid hinsawdd ac yn benderfynol o fod yn rhan o’r ateb wrth gynhyrchu bwyd o safon yn y modd mwyaf ecogyfeillgar posib.”

Mae’r arbenigedd, yr ymroddiad a’r amser mae’n ei gymryd i gynhyrchu cig oen eithriadol yn ail natur i Emily a’i rhieni. Ynghyd â’r dirwedd unigryw, maent yn gweithio ochr yn ochr â’r hyn mae natur wedi’i roi iddynt i gynhyrchu ac aeddfedu’r ŵyn yn y modd mwyaf naturiol posibl.

“Rydyn ni’n credu bod ein Cig Oen Cymru yn blasu cystal oherwydd yr awyr iach sydd yma. Oherwydd ein bod ar dir uwch, mae angen i ni weithio ochr yn ochr â’n hamgylchedd naturiol a gadael i natur ddilyn ei chwrs ei hun.

 

Rydyn ni’n defnyddio bridiau brodorol gan eu bod yn wydn iawn, ac nid oes angen llawer o ymyrraeth arnynt. Gall y tywydd fod yn ddigon garw yma ac nid yw’r tir yr hawsaf i weithio ynddo, felly yr hyn rydych yn ei weld yw esblygiad technegau defaid a ffermio dros y canrifoedd sy’n ein helpu i wneud y gorau o’r amgylchedd heriol sydd gennym.”

Tra bod Emily, ochr yn ochr â’i rhieni, yn parhau i gynhyrchu’r cig oen mwyaf blasus posibl, nid oes lle i laesu dwylo. Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n gorffen trwy ddweud,

“Byddwn wrth fy modd yn parhau i ffermio a dangos sut mae ffermio mor naturiol â phosibl, heb fod angen porthiant ychwanegol, a chaniatáu i’r anifeiliaid dyfu’n naturiol, yn helpu i gynhyrchu bwyd o’r ansawdd gorau.

 

Rwy’n ffermwraig pedwaredd genhedlaeth, felly mae’n dda cadw’r hen draddodiadau i fynd ochr yn ochr â dulliau mwy modern, a fydd nid yn unig yn bodloni chwaeth a thueddiadau newidiol, ond hefyd yn helpu i gadw safonau moesegol ac amgylcheddol mor uchel â phosibl.”

Share This