facebook-pixel

Dathlu Cig Oen Cymru
– y ffordd Eidalaidd!

Gan barhau â’n taith goginio gyda’r cogydd teledu adnabyddus Francesco Mazzei, penderfynon ni ddod ag ef i Gymru i ddysgu mwy am pam mae Cig Oen Cymru a choginio Eidalaidd yn bartneriaeth berffaith.

O ran cynhyrchu cig o safon, mae gan Gymru’r amgylchedd perffaith. Mae’r aer glân, glaswellt cyfoethog a ffrydiau mynydd pur yn cynhyrchu rhagoriaeth, yn naturiol.

Gwyliwch Francesco yn profi’r ffordd Gymreig o ffermio drosto’i hun, pan gyfarfu â Ken a Lisa i ddysgu mwy am fywyd ar fferm fynydd.

Pan gyfarfu Francesco â Chris…

Gyda chynnyrch blasus, naturiol Cymru a bwyd digamsyniol yr Eidal, mae Francesco yn uno rhinweddau rhagorol y ddwy wlad ac yn creu bwyd anhygoel.

Felly pan ddaeth Francesco i Gymru, pwy well iddo’i gyfarfod na Chris ‘Flamebaster’ Roberts? Mae gan y ddau un peth yn gyffredin – angerdd am Gig Oen Cymru – a gallwch wylio Francesco yn rhoi dosbarth meistr Cig Oen Cymru i Chris, mewn ffordd Eidalaidd!

Involtini Cig Oen Cymru wedi’u ffrio gan Francesco Mazzei

Pryd syml ond trawiadol o sgalopau o ganon Cig Oen Cymru wedi’u rholio, wedi’u stwffio â llenwad pancetta, briwsion bara a pherlysiau, wedi’u gweini ar datws stwnsh ysgafn, a madarch picl ar eu pen.

Piadina mozzarella Cig Oen Cymru wedi’i rwygo gan Francesco Mazzei

Bwyd stryd Eidalaidd clasurol gyda thro Cymreig. Ysgwydd Cig Oen Cymru, wedi’i choginio’n araf a’i gweini mewn bara croyw ‘piadina’ syml gyda saws tomato siarp a garllegog, ciwcymbr picl ffres a mozzarella hufennog. Pryd gwych i’w rannu gyda ffrindiau a theulu.

Siancen Cig Oen Cymru wedi’i brwysio gyda risotto Grana Padano gan Francesco Mazzei

Siancod Cig Oen Cymru wedi’u coginio’n araf mewn ‘arddull ossobuco’ ar gyfer cig tyner, sy’n toddi yn eich ceg. Wedi’i weini â risotto hufennog a’i orffen â gremolada siarp, mae’r pryd hwn yn wirioneddol wych.

Selsig Cig Oen Cymru gyda polenta a ffa cannellini Tysganaidd gan Francesco Mazzei

Pryd selsig a ffa i’w gofio. Selsig yn arddull Calabria wedi’u gwneud gyda briwgig Cig Oen Cymru, wedi’u gweini ar wely o polenta hufenog a ffa cannellini llawn perlysiau. Asiad gwych rhwng coginio Cymreig ac Eidalaidd.

Yn ôl ar y tân

Ond rhag ofn iddo gael ei guro, manteisiodd Chris ar y cyfle i ddangos i Francesco sut mae pethau’n cael eu gwneud ar dân…

Stêcs coes Cig Oen Cymru Chris ‘Flamebaster’ Roberts’ gyda salsa golosgedig a bara croyw

Mae’r pryd blasus a thrawiadol hwn yn berffaith ar gyfer cinio haf. Stêc coes Cig Oen Cymru dyner, suddlon wedi’i choginio ar y barbeciw a’i gweini gyda salsa llysiau golosg a bara croyw syml, yn gwneud gwledd haf ddi-ffws i ffrindiau a theulu.

Mwy o brydau blasus Francesco

Dyma saith rysáit Cig Oen Cymru wych arall gan Francesco sy’n asio bwyd Cymreig ac Eidalaidd i chi roi cynnig arnynt gartref. 

Francesco Mazzei

Wedi’i eni a’i fagu yn Calabria, dechreuodd Francesco ei yrfa fwyd yn gynnar iawn pan fu’n gweithio yn gelateria ei ewythr o naw oed, ac ers hynny mae wedi gweithio mewn bwytai ledled y byd, gan gynnwys Rhufain, Bangkok a Llundain. Mae’n wyneb cyfarwydd ar y teledu trwy ei ymddangosiadau rheolaidd ar raglenni fel James Martin’s Saturday Kitchen, MasterChef, Hell’s Kitchen Italy, SnackMasters a CNN gyda Stanley Tucci.

Ers 2015 mae Francseco wedi bod yn gogydd-berchennog ar D&D Sartoria yn Mayfair ar Saville Row, ynghyd â’i fwytai eraill yn Llundain, Radici a Fiume. Mae hefyd wedi cyhoeddi llyfr coginio sy’n arbenigo mewn coginio o dde’r Eidal, Mezzogiorno gan Francesco Mazzei.

Beth sy’n gwneud Cig Oen Cymru mor arbennig?

I Francesco, Cig Oen Cymru yw’r dewis naturiol.

Rydw i wedi fy nghyfareddu gan Gig Oen Cymru, felly pan ges i’r cyfle i weld drosof fy hun sut mae ffermwyr Cymru yn gofalu am eu diadelloedd, beth mae’r ŵyn yn ei fwyta a ble maen nhw’n treulio’u diwrnod, mae wedi gwneud i mi ei werthfawrogi hyd yn oed yn fwy.

Rydw i wrth fy modd yn coginio gyda Chig Oen Cymru oherwydd y blas ac mae’n arbennig o frau. Mae’n dda gwybod bod cynnyrch o’r safon hwn ar garreg fy nrws, ac mae’n stori wych i’w hadrodd i’m cwsmeriaid a’m cogyddion pan fyddaf yn fy mwyty yn Llundain.

Francesco Mazzei

Share This