facebook-pixel

Wythnos Cig Eidion Prydain 2023

Ebr 24, 2023

Bydd Wythnos Cig Eidion Prydain yn dathlu ei 13eg flwyddyn yr wythnos hon (23-30 Ebrill), gan dynnu sylw at arbenigedd ffermio blaenllaw ffermwyr Prydain. Mae Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) yn talu teyrnged i ffermwyr lleol Cymru am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd wrth helpu ffermio ym Mhrydain i fod ymysg y mwyaf cynaliadwy yn y byd.

Mae prynu bwyd sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol, fel Cig Eidion Cymru, nid yn unig yn cefnogi’r economi leol ond hefyd ein cymunedau a’n diwylliant ffermio. Mae llai o filltiroedd bwyd a llai o wastraff i gyd yn cyfrif tuag at fyd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r rhinweddau cynaliadwy hyn hefyd yn helpu i gynhyrchu’r blas Cig Eidion Cymru naturiol blasus yr ydym i gyd yn ei adnabod a’i garu. O brydau rhost trawiadol i’r rhai syfrdanol o hawdd, mae teuluoedd wedi mwynhau Cig Eidion Cymru ers canrifoedd, a gyda Cig Eidion Prydain yn anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2040, byddant yn parhau i wneud am ganrifoedd i ddod.

Hwb iach, y ffordd naturiol…

Mae cael digwyddiad fel Wythnos Cig Eidion Prydain hefyd yn amser gwych i atgoffa ein hunain o’r manteision iechyd sydd i’w gael o fwyta Cig Eidion Cymru. Gall cig coch fel rhan o ddeiet iach a chytbwys wneud cyfraniad pwysig i fwyta maetholion fel haearn a sinc, yn ogystal â phrotein o ansawdd uchel ac ystod o faetholion eraill. Mae hefyd yn ffynhonnell naturiol wych o Fitamin B12, sy’n cadw ein cyrff yn gweithio’n arferol, gan leihau blinder. Darllenwch fwy am fanteision iechyd Cig Eidion Cymru drwy ymweld â’n tudalen iechyd.

Ryseitiau naturiol dda…

Felly peidiwch ag oedi! Ewch i stocio fyny ar Gig Eidion Cymru yr wythnos yma a mwynhau ei goginio. Gadewch i flas naturiol hyfryd y cig i sgleinio wrth wneud un o’n ryseitiau, fel asennau byrion mewn gwin coch a pherlysiau neu frisged wedi’i goginio’n araf, neu os ydych ar fwy o frys, beth am salad ysgafnach neu salad Asiaidd gyda nwdls? Os ydych chi awydd stecen, gallwn argymell stêc llygad yr asen gyda madarch a chaws pob gan y cogydd Matt Waldron.

Brisged Cig Eidion Cymru wedi’i goginio’n araf

Share This