facebook-pixel

Brechdan stêc chipotle Cig Eidion Cymru gydag afocado wedi’i falu y Migrating Chef

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 1

Bydd angen

  • 2 stêc bavette Cig Eidion Cymru PGI, 200g yr un
  • 500g torth surdoes
  • Olew
  • Garlleg
  • 2 shibwnsyn
  • 1 afocado mawr, wedi’i falu
  • ½ leim, sudd a chroen
  • ⅓ tsili ffres, wedi ei dorri
  • 125g caws glas
  • Llond llaw o ddail berwr y gerddi
  • Clwstwr bach o goriander
  • 2 lwy de rhosmari ffres
  • 2 lwy de teim ffres
  • 1 llwy de cwmin
  • Halen a phupur du ffres
  • Ar gyfer y saws:
  • 3 llwy fwrdd crème fraiche
  • 2 lwy de surop masarn
  • 1 llwy de paprica wedi’i fygu
  • ½ llwy de powdr tsili
  • ¼ llwy de powdr chipotle
  • 2 lwy de sudd leim

Dull

  1. Arllwyswch olew ar sleisys o fara surdoes a rhwbio’r garlleg ffres arno i roi rhyw awgrym bach, ac yna ei roi i un ochr nes bod y stêc wedi’i choginio.
  2. Yn y cyfamser, rhwbiwch y stêcs gyda’r rhosmari ffres, un ewin garlleg, y cwmin a phinsiad da o halen a phupur du ffres a llond llwy de o olew. Rhwbiwch i mewn i’r stêcs a’u gadael ar yr ochr am 2 awr i ddod i dymheredd yr ystafell.
  3. Coginiwch y stêcs at eich dant ar radell danbaid ac yna gorffwyswch y cig. Tra bod y cig yn gorffwys, golosgwch sleisys trwchus o’r shibwns.
  4. Gan ddefnyddio’r bara surdoes, mopiwch y suddion o’r stêc ac yna golosgwch y tu mewn i’r bara.
  5. Nesaf, malwch yr afocado’n fras gyda phestl a morter, ychwanegwch y leim a’r tsili ffres a phinsiad o halen.
  6. Ar gyfer y saws crème fraiche masarn a chipotle, cymysgwch y cynhwysion i gyd gyda’i gilydd.
  7. I adeiladu’r frechdan, taenwch haenen dda o’r gymysgedd afocado ar waelod y frechdan, yna ychydig o ddail berwr y gerddi bob yn ail gyda haenau o sleisys o’r stêc a’r shibwns.
  8. Unwaith i chi orchuddio’r gwaelod rhowch ambell lwyaid o afocado ar y cig a malu’r caws glas yn fras ar ei ben.
  9. Yn olaf, arllwyswch y saws chipotle ar ben y cyfan yn ysgafn a rhowch unrhyw saws sydd dros ben i’r naill ochr er mwyn ei ychwanegu wrth fwyta. Mae hon yn frechdan wych i’w rhannu!
Share This