facebook-pixel

Brechdan stêc wagyu Cig Eidion Cymru Llio Angharad a Nicky Batch gyda sglodion tenau a saws cwrw du

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 1

Bydd angen

  • 1 stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru PGI
  • 2 sleisen o fara surdoes ffres
  • 2 daten goch neu datws cyffredin
  • 1 cwrw du, e.e. Mikkeller Chipotle Porter
  • 1 llwy fwrdd blawd plaen
  • 1 marchruddygl ffres
  • 2 lwy de miso gwyn
  • 2/3 ewin garlleg
  • 1 mêr asgwrn
  • 2 shibwnsyn banana
  • Menyn Cymreig hallt
  • 1 ciwb stoc llysiau
  • 1 caws Black Bomber Eryri
  • 1 pecyn dripin cig eidion wagyu Cymreig
  • 1 pecyn mozzarella
  • Halen Môn a phupur du

Dull

  1. Rhostiwch y garlleg (gan adael y plisgyn arno), y shibwns a’r mêr asgwrn gyda llond llwy fwrdd o’r dripin cig eidion wagyu. Rhowch yn y ffwrn am 20 munud ar 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
  2. Ar ôl 20 munud tynnwch yr hambwrdd allan o’r ffwrn a phlicio’r garlleg.
  3. I wneud y grefi, ychwanegwch lond llwy fwrdd o flawd a dwy lwy fwrdd o gwrw du. Gallwch chi ychwanegu rhagor o gwrw du wedyn os oes angen.
  4. Gwnewch yn siŵr fod y mêr wedi ei sgwpio allan o’r asgwrn. Ychwanegwch giwb stoc llysiau, 2 lwy de o fiso melys, a darn maint bawd o farchruddygl wedi ei ratio.
  5. Blaswch, ac ychwanegu ychydig yn rhagor o gwrw du os oes angen yn ogystal â phupur du. Tewychwch y grefi nes ei fod wedi haneru.
  6. Yn y cyfamser, torrwch y tatws yn julienne, toddwch fraster y cig eidion wagyu mewn padell a ffrio’r tatws tenau nes eu bod yn grenshllyd.
  7. Ychwanegwch bupur a halen at y stêc wagyu Cymreig, yna’i ffrio yn ganolig-waedlyd gyda menyn Cymreig.
  8. Tynnwch o’r badell i orffwys am 5 munud ac arllwys suddion y stêc i mewn gyda’r grefi.
  9. Gratiwch gaws Black Bomber Eryri a’i gymysgu â’r un faint o mozzarella wedi’i ratio. Toddwch y cyfan yn ysgafn mewn padell, dylai fod yn feddal ac fel llinyn.
  10. Sleisiwch ddau dalp mawr o fara surdoes lleol a thaenu menyn Cymreig da drosto.
  11. Sleisiwch y stêc, ac ychwanegu Halen Môn.
  12. Rhowch y sleisys stêc rhwng y bara surdoes, y sglodion tenau ar ei ben, yna’r caws wedi toddi a’r grefi. Os ydych chi eisiau pryd bras, helpwch eich hun i’r grefi. Os ydych chi eisiau pryd ysgafnach, rhowch lai o grefi.
Share This